CAERDYDD 20

European Museum of
the Year Awards

Important: Coronavirus (COVID-19)

Unfortunately, the European Museum of the Year Awards and Conference due to take place in Cardiff on 29 April – 2 May 2020 has been postponed due to the global Covid-19 pandemic. The wellbeing of delegates, as well as our visitors, staff and volunteers are our priority and it is with this in mind that we have taken this decision.

We remain in discussion with the European Museum Forum about a future date, and further updates will be shared here, via our website and social media channels. All ticket holders will be issued a refund, and sent details on how to rebook once a future date is confirmed.

European Museum of the Year Awards and Conference

29 April - 2 May 2020

For the first time in its history, the EMYA Conference and Awards Ceremony will take place in Cardiff, Wales from 29 April – 2 May 2020. The host institution will be Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, and the Conference and Awards Ceremony will take place at

National Museum Cardiff.

Bookings are now open, additional information will be added to the website over the coming weeks. If you do have any questions or require a VISA support letter, please email EMYA2020@museumwales.ac.uk.


The European Museum of the Year Award is the continent’s oldest and most prestigious museum prize. Overseen by the European Museum Forum, since 1977 it has been dedicated to promoting innovation and excellence in public quality in museum practice, encouraging networking and exchange of ideas within the sector. EMF/EMYA works within an overall framework of a commitment to citizenship, democracy and human rights, to sustainability, to bridging cultures and social and political borders. Last year’s EMYA winner was the Rijksmuseum Boerhaave, Leiden, The Netherlands. Since 1977 the EMF has worked in partnership with the Council of Europe, which awards the Council of Europe Museum Prize, dedicated to museums which are of the highest quality and celebrate human rights and democracy. The most recent Prize was awarded to The National Museum of Secret Surveillance, 'House of Leaves' Tirana, Albania. For a full list of previous winners see the EMF website.

The focus of EMYA is on innovation in public quality which is something that can be achieved by museums no matter what their size, location, or collection – museums of every type are encouraged to apply. Over the years, EMYA has evolved from the EMYA and the Council of Europe prize to a more differentiated scheme adding four more awards: The Silletto Prize, the Kenneth Hudson Award, the Portimao Prize for the Most Welcoming Museum and the The Meyvaert Museum Prize for Sustainability. The different awards within the EMYA scheme reflect, represent and emphasize different aspects and dimension of the organisation’s underlying values.

The EMYA annual conference and award ceremony takes place over three days and is a unique opportunity to get an overview of museum creativity right across Europe and to network with colleagues leading these innovations.

Pwysig: Coronafeirws (COVID-19)

Yn anffodus, mae Gwobrau a Chynhadledd Amgueddfa Ewropeaidd y flwyddyn, oedd fod i ddigwydd yng Nghaerdydd ar 29 Ebrill-2 Mai 2020, wedi cael eu gohirio oherwydd pandemig byd-eang Covid-19. Iechyd a lles ein mynychwyr, yn ogystal ag ymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr, yw ein blaenoriaeth, a dyna oedd wrth wraidd ein penderfyniad.

Rydym yn dal i drafod gyda Fforwm Amgueddfeydd Ewrop ynghylch dyddiad newydd, a byddwn yn rhannu unrhyw newyddion yma ar ein gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol. Bydd pawb sydd wedi prynu tocyn yn derbyn ad-daliad, a byddwn yn anfon manylion ar sut i ail-archebu unwaith y bydd y dyddiad newydd wedi’i gadarnhau.

Gwobrau a Chynhadledd Amgueddfa Ewropeaidd y Flwyddyn

29 Ebrill – 2 Mai 2020

Am y tro cyntaf yn ei hanes, bydd seremoni gwobrwyo a chynhadledd EMYA yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, Cymru, o 29 Ebrill – 2 Mai 2020. Amgueddfa Cymru fydd y sefydliad fydd yn gyfrifol amdano, a chynhelir y seremoni gwobrwyo a’r gynhadledd yn

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae modd archebu eich tocynnau nawr, bydd mwy o wybodaeth yn cael ei ychwanegu i'r wefan dros yr wythnosau nesaf. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych angen llythyr cymorth VISA, anfonwch e-bost at EMYA2020@amgueddfacymru.ac.uk.


Gwobr Amgueddfa Ewropeaidd y Flwyddyn (EMYA) yw’r wobr amgueddfaol hynaf ac uchaf ei bri yn Ewrop. Ers 1977, dan oruchwyliaeth Fforwm Amgueddfeydd Ewrop, mae’r Wobr wedi bod yn hyrwyddo arloesi a rhagoriaeth i’r cyhoedd mewn amgueddfeydd, gan annog rhwydweithio a chyfnewid syniadau o fewn y sector. Mae gwaith y Fforwm a’r Wobr wedi’i ymroi i ddinasyddiaeth, democratiaeth a hawliau dynol, yn ogystal â chynaliadwyedd a phontio ffiniau diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol. Enillydd y Wobr llynedd oedd y Rijksmuseum Boerhaave, Leiden, Yr Iseldiroedd. Ers 1977 mae’r Fforwm wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Ewrop, sy’n dyfarnu Gwobr Amgueddfeydd Cyngor Ewrop, ar gyfer amgueddfeydd o’r safon uchaf sy’n dathlu hawliau dynol a democratiaeth. Cafodd y wobr fwyaf diweddar ei rhoi i Amgueddfa Genedlaethol Cudd-wylio, neu’r ‘Tŷ Dail’, Tirana, Albania. Am restr lawn o gyn-enillwyr, gweler wefan Fforwm Amgueddfeydd Ewrop

Mae’r EMYA yn canolbwyntio ar arloesi o ran arlwy gyhoeddus, rhywbeth y gall pob amgueddfa ei gyflawni, waeth beth yw ei maint, lleoliad neu gasgliad – caiff amgueddfeydd o bob math eu hannog i ymgeisio. Dros y blynyddoedd mae’r EMYA wedi esblygu o’r brif wobr a gwobr Cyngor Ewrop ac erbyn hyn yn cynnwys pedair gwobr arall: Gwobr Silletto, Gwobr Kenneth Hudson, Gwobr Portimao am yr Amgueddfa Fwyaf Croesawgar, a Gwobr Meyvaert am Gynaliadwyedd. Mae’r gwahanol wobrau o fewn EMYA yn adlewyrchu, yn cynrychioli ac yn pwysleisio gwahanol agweddau ar werthoedd craidd y sefydliad.

Caiff cynhadledd flynyddol a seremoni wobrwyo EMYA eu cynnal dros dridiau, ac mae’n gyfle unigryw i gael golwg ar greadigrwydd amgueddfeydd ar draws Ewrop ac i rwydweithio gyda’r bobl sy’n arwain y gwaith hwn.