Blog Homepage

Neges Nadoligaidd o Eglwys Teilo Sant

Sara Huws, 20 December 2007

Mae'r flwyddyn yn tynnu at ei therfyn, ac o gofio'r holl gynnwrf sydd 'di bod rownd yr adeilad (ac ynddo fe hefyd), mae'n braf gweld Eglwys Teilo Sant yn cael chydig o lonydd. Yn lliwiau diwrnod crenshlyd, oer fel heddiw, roedd yr adeilad yn edrych fel tase fe'n anadlu mas yn hir a dwfwn - yn paratoi i dorri gwreiddie ar dir Sain Ffagan. Mae 'di bod trwy ddipyn leni, ac ar ôl yr holl redeg ogwmpas, mae'n gret gallu camu 'nôl a gwerthfawrogi scale y peth. Mae fy ngwaith o ddydd i ddydd yn ymwneud fwyfwy â manylion bychain - esbonio symbolau, gwrthrychau a cherfiadau delicet. Fel y murlunwyr addurnodd yr eglwys 'nôl ym 1520, ma gafael reit wan 'da fi ar bersbectif ambell waith. Mae maint yn prosiect yn enfawr, a'r adeilad yn un arbennig (a lwcus) iawn.

Wrth gwrs, er ei bod hi'n ymddangos yn dawel iawn yma, dyn ni'n yr adran addysg di bod fel wiwerod yn ceisio diwygio gwefan yr eglwys. (Sôn am wiwerod - mae'r rhai sy'n frith dros y safle bron yn barod i gysgu dros y gaea - a ma nhw'n hiwj! Ga'n nhw fyw ar eu bloneg, nawr, tan y gwanwyn...). Ta waeth - y wefan - bydd newidiadau'n digwydd gan bwyll bach ym mis Ionawr. Bydd llawer mwy o orielau lluniau, a gwybodaeth am ddigwyddiadau - fe fyddai'n eich hysbysu chi hefyd, o broses yr ail beintio. Mae'r murlunwyr yn dod yn ôl i orffen yr addurno ym mis Ionawr, a gallwch eu gwylio'n gweithio, gobeithio! Hoffwn i wbod be 'dych chi'n feddwl o'r safle newydd felly cofiwch ymweld ag e yn y flwyddyn newydd!

Reit - cwpwl o anrhegion i chi cyn mynd...

Podlediad yr Eglwys - taith sain o amgylch yr Eglwys, a lluniau bach hyfryd i'ch diddanu. Lawrlwythwch e mewn i'ch gajets, impress friends and family gyda ffeithiau diddorol ambyti'r Oesoedd Canol rownd y bwrdd cinio 'Dolig...

Siop-Eglwysi Brooklyn - rhwbeth bach yn fwy modern, wedi'i ddarganfod ar flog technoleg a diwylliant boingboing.

...aaac un bach am lwc stori ar wefan y BBC i chi eu dreulio. Mwy fyth o dystiolaeth 'mod i wedi fy ngeni yn y ganrif rong - roedd y Tuduriaid yn iachach eu deiet na'r Rhufeiniaid, hyd yn oed!

 

Nadolig Llawen i chi o Eglwys Teilo Sant - gobeithio y gwelai chi yn y flwyddyn newydd!

Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.