Blog Homepage

Cyflwyno Kate

Elen Phillips, 19 December 2014

Dw i wrth fy modd yn twrio yn storfeydd yr Amgueddfa. Sdim byd gwell na darganfod gwrthrychau sydd heb weld golau dydd ers degawdau. Llynedd, tra'n chwilota am gasgliadau o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, fe ddes i ar draws dyddiadur o'r flwyddyn 1915 mewn amlen yn yr archif. Wrth bori'r tudalennau, a thrafod gyda chydweithwyr, fe daeth hi'n amlwg fod stori'r perchennog yn haeddu cynulleidfa ehangach. Felly, dyma ni - croeso i brosiect @DyddiadurKate.

Eleni, i gyd-fynd a rhaglen yr Amgueddfa i goffau canmlwyddiant y Rhyfel Mawr, mi fydd tim ohonom yn trydar cynnwys y dyddiadur yn ddyddiol - canrif union ers i Kate Ellis, merch ffarm o ardal y Bala, nodi ei gweithgareddau beunyddiol yn ei blwyddlyfr bach coch. Ar y pryd, roedd Kate (Rowlands yn ddiweddarach) yn ei hugeiniau cynnar ac yn byw gyda'i rhieni - Ellis Robert Ellis a'i wraig Alice Jane Ellis - yn Tyhen, gerllaw pentre'r Sarnau. Wrth drydar y dyddiadur, byddwn yn defnyddio sillafu, atalnodi a thafodiaith y ddogfen wreiddiol.

Nid dyddiadur ymsonol mo hwn - peidiwch a disgwyl cyfrinachau o'r galon. Yn hytrach, yr hyn a gawn yw cipolwg ar fywyd dyddiol yng nghefn gwlad Meirionnydd ar ddechre'r ugeinfed ganrif - o'r tywydd a thasgau amaethyddol i brysurdeb diwylliannol y fro. Prin iawn yw cyfeiriadau Kate at y Rhyfel, er i nifer o drigolion yr ardal ymuno a'r lluoedd arfog. Ond mae hynny ynddo'i hun yn ddiddorol - iddi hi, ar yr wyneb beth bynnag, roedd bywyd yn mynd yn ei flaen fel arfer.

Cadwch lygad ar y blog am ragor o fanylion am y prosiect ac i glywed mwy am y bobl a'r digwyddiadau sy'n cael eu crybwyll yn y dyddiadur. Cofiwch hefyd ddilyn @DyddiadurKate o ddydd Calan ymlaen i olrhain ei hanes drwy gydol 2015.

Tro nesaf: Ar drywydd Kate Ellis.

Elen Phillips

Principal Curator Contemporary & Community History
View Profile
Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.