Amgueddfa Blog

Blog Homepage

Yn ei dyddiadur ddoe, soniodd Kate am farwolaeth gwr ifanc o Landderfel:

25 Ionawr 1915 – Diwrnod braf iawn. Marwolaeth Willie Jones Llandderfel yn 35 oed. Bob Price yma min nos. David Roberts Pentre ag Humphrey Davies yma min nos.

Yn ei harddull arferol, dyw Kate ddim yn ymhelaethu am farwolaeth Willie Jones. Ond gyda diolch i adnoddau digidol gwych y Llyfrgell Genedlaethol, gallwn wneud hynny heddiw. Cyhoeddwyd ysgrif goffa i Willie Jones yn Baner Ac Amserau Cymru ar 6 Chwefror 1915. O’r erthygl hon, cawn wybod iddo farw o’r diciâu – un Cymro ymysg y 41,800 a fu farw o’r haint yng Nghymru a Lloegr yn y flwyddyn honno.

“Wele un etto o feibion Cymru wedi disgyn i’r bedd yn gynnar trwy yr hen elyn marwol, y darfodedigaeth. Cafodd bob gofalaeth a allasai cyfeillion a pherthynasau eu hestyn iddo. Bu am ysbaid mewn ‘Sanatorium’ ac i bob golwg dynol gallesid meddwl ei fod wedi troi ar wella, ond amser byr a fu cyn dechrau diboeni drachefn.”

Roedd y diciâu yn ofid mawr yng Nghymru ar ddechrau’r 20fed ganrif, ac ar gynnydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Penderfynodd yr Aelod Seneddol David Davies – Yr Arglwydd Davies o Landinam yn ddiweddarach – bod angen “crwsâd” yn erbyn yr haint. I’r diben hwn, yn 1910 sefydlwyd Cymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru (Edward VII Welsh National Memorial Association), gyda Davies yn llywydd arni. Gallwch ddarllen mwy am hanes y Gymdeithas ar wefan Archifau Cymru.

Yma yn Sain Ffagan, mae blwch yn y casgliad a ddefnyddwyd yng Ngorffennaf 1914 i gasglu arian er budd y Gymdeithas. O’i amgylch mae’r adysgrif The King Edward VII Welsh National Memorial Association – Crusade againt Consumption – No Change – 21 July 1914, 22 July 1914, 23 July 1914.

 

Elen Phillips

Principal Curator Contemporary & Community History
View Profile

Comments(2)

Sara Huws Amgueddfa Cymru – National Museum Wales Staff
28 January 2015, 16:55

Diolch i chi am eich sylw - mae'n braf clywed atgofion mor gynnes sydd gan bobl amdani. Bydd rhaid ini gael golwg am y llyfr yr ydych yn ei grybwyll. Yn ôl Elen, un o'n curaduron ac awdur y post uchod, mae Penbryn yn cael ei grybwyll sawl gwaith yn y dyddiadur.

Sara

eleri williams
28 January 2015, 15:30
yn ei chofio yn sarnau,gwraig fechan grwn,gwyneb crwn,spectol grwn,ei llun yn llyfr dwysan rowlands yn y llun noson gweu,roedd yn dod I penbryn fy nghartref I nol llaeth bron iawn bob dydd,ac roedd yn anwyl iawn, ac roedd ganddi diddordeb mawr mewn pobl.

Leave a comment