Blog Homepage

DyddiadurKate – Gwersyll Carcharorion Frongoch

Elen Phillips, 20 April 2015

Erbyn Ebrill 1915, roedd sgil effeithiau’r Rhyfel Mawr i’w gweld a’u teimlo ar lawr gwlad Meirionnydd. Nepell o gartref Kate a’i theulu, fe agorwyd gwersyll i garcharorion rhyfel ar gyn safle distylldy whisgi yn Frongoch – rhyw ddwy filltir o’r Bala.

Yn y cof cenedlaethol, rydym yn dueddol o gysylltu Frongoch â’r Gwyddelod. Yma y carcharwyd arweinwyr blaenllaw Gwrthryfel y Pasg ym 1916. Ond yn wreiddiol, carchar i Almaenwyr oedd Frongoch. Bu’r awdurdodau wrthi am wythnosau yn gweddnewid yr hen ddistylldy ar eu cyfer.

Y Germans – Prysurdeb di-ail a welir yn hen waith whisgi Fron Goch, yn darparu lle i giwaid y fath sydd i ddyfod yma mewn rhyw fis eto. Wrth syllu oddeutu’r adeilad, a gweled rhwyd-waith o wifrau sydd yn ei amgylchu, gallai dyn feddwl mai haid o greaduriaid gwylltion a mileinig ydynt, ac yn ol a welaf, bydd yn haws i lygoden fynd o gêg cath nag i’r un o honynt ddiengyd. Diolch am hyny; y maent yn ddigon agos atom lle y maent, heb son am gartrefu yn ein hymyl fel hyn. Y Llan 1 Ionawr 1915

Yn naturiol, roedd y wasg leol yn llawn erthyglau am ddyfodiad yr Almaenwyr i Frongoch. Wedi’r cyfan, hwn oedd un o’r gwersylloedd cyntaf o’i fath ym Mhrydain yn y cyfnod dan sylw. Gallwn ond ddychmygu chwilfrydedd a gofid y boblogaeth leol pan gyrhaeddodd yr Amlaenwyr cyntaf ar 25 Mawrth 1915.

Bydd dydd Iau diweddaf yn ddiwrnod i’w hir gofio yn ardaloedd y Bala, a bydd yr argraffiadau a wnaed ar feddyliau y cannoedd plant ac ereill yn rhwym o aros ar eu cof tra byddant byw, oblegid yr oedd amgylchiad yn un mor eithriadol, sef dyfodiad yn agos i bedwar cant o garcharorion rhyfel i wersyllfa Frongoch, yr hwn sydd o fewn dwy filltir a hanner i’r Bala… Deallwn fod llawer o’r carcharorion uchod wedi eu dal ar ol y frwydr fawr yn Neuve Chapelle. Y Cymro (Lerpwl a’r Wyddgrug) 7 Ebrill 1915

Er nad oedd Kate yn un i gofnodi cerrig milltir y rhyfel, mae cyfeiriad byr at yr Almaenwyr yn cyrraedd Frongoch yn ei dyddiadur (hynny a hanes coler ceffyl a'i chwpwrdd newydd!)

19 Ebrill – Dros 500 o garcharorion Germanaidd yn dod i Frongoch. Myfi yn mynd ir Post a mynd a choler ceffyl Berwyn House adref. Fewythr Hugh yn dod yma i weld y cwpwrdd.

Dyma un o'r ychydig gyfeiriadau uniongyrchol at y rhyfel yn y dyddiadur.

 

 

 

Elen Phillips

Principal Curator Contemporary & Community History
View Profile
Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.