Blog Homepage

Dyddiadur Kate: ‘Week end’ yn Rhyduchaf

Elen Phillips, 7 June 2015

Yn ei dyddiadur echddoe, soniodd Kate ei bod yn mynd i fferm y Fedwarian, Rhyduchaf, am y ‘week end’. Yn ddiweddar mae hi hefyd wedi bod yn 'white washio' ei llofft ac yn gwibio o le i le ar ei 'bike'. Ar yr olwg gyntaf, mae geiriau fel hyn yn edrych yn chwithig mewn dyddiadur wedi ei leoli mewn cymuned a chyfnod o'i fath. Ond o gofio cefndir Kate, efallai nad yw hi’n syndod iddi fabwysiadu rhai ymadroddion Saesneg fel rhan o’i iaith bob dydd.

Mae cyfrifiad 1911 yn dangos ei bod yn medru’r ddwy iaith – y Gymraeg a’r Saesneg. Felly hefyd ei mam, Alice Jane Ellis. Er hyn, Cymraeg yn unig oedd iaith ei llys-dad, Ellis Roberts Ellis. Os gofiwch chi, ganwyd Kate yn y Brymbo, ger Wrecsam, ble roedd ei thad – David Williams – yn gweithio yn y diwydiant dur. Fel ei mam, roedd yntau hefyd yn frodor o Gefnddwysarn, ond bu farw mewn damwain yn y gweithle pan roedd hi’n naw mis oed. Yn ddiweddarach, ailbriododd ei mam ac aeth y teulu bach newydd i fyw i Lantisilio yn 1897. Roedd Kate yn bum mlwydd oed ar y pryd, ac yn ddeuddeg pan ddychwelodd y teulu i Feirionnydd. Dyma ei hatgofion o’r cyfnod:

Mi ailbriododd mam a mi athon ni i fyw i Llantisilio i ochor Llangollen wedyn yn de… Sisnigedd iawn o’dd fano. A dw i’n diolch am hynny heddiw hefyd ynde, i mi gael yn nhrwytho yn y Saesneg i fynd drwy’r byd… Doedd dim [Cymraeg] tu allan i’r ty.

Wrth wrando ar lais Kate Rowlands ar y tapiau sain sydd yma yn Sain Ffagan, mae’n rhyfedd meddwl amdani’n siarad Saesneg o gwbl! Yn ôl ei theulu, bu Kate yn gweini yn Lerpwl yn y blynyddoedd cyn 1915 a chafodd flas mawr ar fywyd dinesig. Roedd hi’n canlyn Bob Price Rowlands ar y pryd (ei gwr yn ddiweddarach) a bu yntau hefyd yn gweithio yn nociau Lerpwl am sbel. Mae ei ddyddiadur o'r cyfnod ym meddiant y teulu. Yn ôl bob sôn, mae'r iaith yn troi i'r Saesneg yn fwya' sydyn - dylanwad y ddinas mae'n siwr.

Bydd cyfle eto i ysgrifennu blog ehangach am iaith dyddiadur Kate, ond am y tro mwynhewch eich weekend.

 

Elen Phillips

Principal Curator Contemporary & Community History
View Profile
Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.