Blog Homepage

Astudio Cymunedau Cymru - Cynhadledd er cof am Trefor M. Owen

Elen Phillips, 12 October 2015

Ar 21 o Dachwedd, rydym yn cynnal cynhadledd undydd yma yn Sain Ffagan er cof am y diweddar Trefor M. Owen. Cynhelir y gynhadledd ar y cyd â Chymdeithas Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Cymru: Adran Ethnoleg ac Astudiaethau Gwerin.

Bu Trefor Owen yn Guradur yr Amgueddfa Werin o 1971 tan ei ymddeoliad yn 1987. Roedd yn awdurdod cydnabyddedig ar arferion gwerin Cymru, ac fe ystyrir ei gyfrol Welsh Folk Customs yn un o astudiaethau pwysicaf y maes. Fel ei ragflaenydd, Iorwerth C. Peate, astudiodd gyfuniad o ddaeryddiaeth ac anthropoleg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Un arall o raddedigion yr ysgol ddeallusol hon oedd Alwyn D. Rees. Mae eleni yn nodi 65 mlynedd ers cyhoeddi ei gyfrol arloesol Life in a Welsh Countryside – arolwg gymdeithasegol o bentref Llanfihangel yng Ngwynfa.

Dyma ragflas o raglen y gynhadledd:

10:30 – 11:30            

Yr Athro Rhys Jones: Astudio cymunedau Cymreig mewn oes ôl-dirogaethol

11:30 – 12:30             

Yr Athro M. Wynn Thomas: Cofio Alwyn D. Rees

2:15 – 3:00                

Tecwyn Vaughan Jones: 'Prin ddau lle’r oedd gynnau gant’: Hanes Trefor M. Owen

3:15 – 4:15                

Dr Eurwyn Wiliam: Trefor M. Owen: Curadur ac Ysgolhaig

Mae croeso cynnes i bawb fynychu’r gynhadledd yn rhad ac am ddim. Bydd cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gael hefyd. I gofrestru neu am ragor o fanylion, cysylltwch â fi drwy ebost os gwelwch yn dda: elen.phillips@amgueddfacymru.ac.uk

 

 

 

Elen Phillips

Principal Curator Contemporary & Community History
View Profile
Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.