Amgueddfa Blog

Blog Homepage

Os ydych yn un o ddilynwyr selog @DyddiadurKate, ’da chi’n siŵr o fod wedi sylwi nad oedd Mrs Rowlands mor gyson â’i chofnodion yn 1946. Pam? Gallwn ond ddyfalu. Gofynion teuluol, dim awydd … pwy a ŵyr. Gan fod mis o dawelwch o’n blaenau  — does dim cofnod tan 10 Hydref! — dyma gyfle i ni lenwi’r bwlch gyda rhagor o hanes Kate Rowlands y Sarnau.

Yn gynharach eleni, daeth pecyn drwy’r post i ni yma yn Sain Ffagan gan Eilir Rowlands, un o wyrion Kate. Ynddo roedd toriadau papur newydd, hen luniau, coeden deulu a llythyr yn llawn atgofion amdani. Felly, dyma i chi grynodeb o'r llythyr arbennig hwnnw yng ngeiriau Eilir Rowlands: 

Fy ofynwyd be fyddai fy nain yn feddwl o hyn i gyd – syndod mawr mi dybiaf, gyda’r ebychiad lleol ‘brenshiach y bratie!’ Ond dw i’n siwr y byddai yn hynod falch bod ardal cefn gwlad y Sarnau a Chefnddwysarn yn cael gymaint o sylw yn genedlaethol ac yn fyd eang, a bod y pwyslais ar gymdogaeth glos gyda gwaith dyddiol yn cael y sylw haeddiannol.

Fe sonir am y dyddiadur mewn sgyrsiau yn yr ardal a mae’r enw KATE yn ddiarth i bawb. Fel KITTY TY HÊN y byddai pawb yn ei chyfarch a'i hadnabod… Ni wyddwn fy hun tan yn ddiweddar ei bod yn cael ei galw yn KATE pan yn ifanc!! KITTY ROWLANDS sydd ar ei charreg fedd yng Nghefnddwysarn gyda’r cwpled:

’Rhoes i eraill drysori

Ei chyngor a’i hiwmor hi

Mae'n amlwg oddi wrth dyddiadur 1946 fod cymaint o fynd a dod ag yn 1915 a'r gymdogaeth yr un mor glos. Y gwahaniaeth mwyaf mi dybiaf oedd fod ceir a bwsiau a'r ffordd o drafeilio wedi datblygu oedd yn golygu fod pobl yn mynd ymhellach i ymweld â'i gilydd. Hefyd roedd tripiau wedi dod yn ffasiynol yng nghefn gwlad.

Ganwyd fi yn 1950 felly cof plentyn sydd gennyf am nain a taid yn byw yn Ty Hên, ond yn cofio’n dda am ddiwrnod dyrnu, cneifio a hel gwair. Ty hynod fach oedd Ty Hên, ond clud a chysurus. Bob tro yr oeddwn yn cerdded y milltir o’r Hendre i Ty Hên roedd nain bron yn ddieithriad yn crosio sgwariau ar gyfer gwneud cwilt i hwn a llall. Llygaid eitha gwantan oedd gan nain erioed ond roedd pob sgwar bach yn berffaith. Wrth roi proc i'r tân glo hen ffasiwn ei dywediad fydde 'fyddai'n mynd â hwn efo fi sdi' gan chwerthin!

Roedd safle Ty Hên mewn lle hynod o brydferth. Mae'n edrych dros bentre Sarnau a mynydd y Berwyn yn y pellter. Mae'n cael haul peth cynta yn y bore. Ffordd ddifrifol o wael oedd i Ty Hên ers talwm, rhan ohoni ar hyd ffos lydan a elwid yn 'ffordd ddŵr' ac yn arwain i allt serth a chreigiog. Mi glywais nain yn dweud sawl tro am yr adegau y byddai fy nhaid wedi mynd i nôl nwyddau gyda cheffyl a throl ac yn dod adre i fyny'r allt byddai'n gweiddi ar fy nain (a oedd yn disgwyl amdano ac yn ei wylio wrth ddrws y tŷ) 'SGOTSHEN'. Beth oedd hyn yn ei feddwl oedd os oedd fy nhaid wedi gor-lwytho'r drol ac yn rhy drwm i'r ceffyl ei thynnu fyny'r allt a'r drol yn cychwyn ar yn ôl, byddai'n rhaid cael 'sgotshen' (wejen o bren) tu ôl i'r olwyn i arbed damwain a thamchwa. Byddai nain yn disgwyl am y waedd ac yn gorfod rhedeg yn syth gyda'r 'sgotshen' yn ei llaw a'i gosod tu ôl yr olwyn.

Mae Ty Hên erbyn heddiw yn hollol wahanol o ran edrychiad oherwydd fe unwyd y tŷ gyda’r beudy a’r stabl ac mae yn awr yn un tŷ hir. Perchnogion y tŷ yw par ifanc o Loegr sydd â chysylltiadau Cymreig ac maent wedi dysgu Cymraeg. Maent wedi addasu yr adeilad allanol ar gyfer beicwyr sy’n dod ar wyliau. Medraf glywed fy nain yn dweud ‘brenshach y bratie’ pe byddai yn gweld Ty Hên heddiw ac eto yn falch bod bwrlwm a bywyd yn dal yn yr hen gartre.

Gyda diolch i Eilir Rowlands, Cefnddwysarn.

Elen Phillips

Principal Curator Contemporary & Community History
View Profile

Leave a comment