Blog Homepage

Gweithio fel Swyddog Cyswllt Ymddiriedolaeth i PAS Cymru

Spencer Gavin Smith, 10 February 2017

Rwy’n gweithio i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ym Mangor. Fel rhan o fy ngwaith, rwy’n gweithio fel Swyddog Cyswllt Ymddiriedolaeth i Portable Antiquities Scheme (PAS) Cymru. Mae’r gwaith yn diddorol ty hwnt, ac yma fyddai’n son ychydig am sut rwy’n gweithio.

Cydweithio

Fyswn i ddim yn gallu gwneud y swydd yma heb cyweithio gyda y bobl sy’n e-bostio, ffonio neu galw i mewn i son am artefactau. Mae’r drawsdoriad o bobl o gwmpas hanner a hanner, gyda rhwydwaith bach o defnyddwyr perianau darganfod metel wedi cymysgu gyda pobol sy’n byw yn lleol a pobl ar ei gwyliau sydd yn darganfod pethau ar hap.

Chwilfrydedd am y artefact sy’n dod a bobl i mi, a ‘Beth yw hyn?’ yw’r cwestiwn rwy’n clywed yn amlaf. Mae’r cymysgedd o artefactau hefyd yn diddorol, mae’n fwy na gyfres o bwyellau Oes Efydd, er fyswn i ddim yn cwyno am newyddion o celc o’r rhain yn dod trwy’r drws!

Ar y llaw arall, fyswn i ddim yn gallu gwneud y gwaith heb y tim yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Ni ellir pob archaeolegydd adnabod pob artefact, ac er fy mod i wedi gweithio fel archaeolegydd am ugain mlynedd, bob hyn a hyn rhaid gofyn iddyn i’r tim yr un un cwestiwn mae bobl yn gofyn i mi. Weithiau cadarnhad sydd angen am syniad sydd gen i, ond weithiau rhaid cyfaddau fy mod i ddim wedi gweld y fath beth o blaen.

Cofnodi

Ers i mi gychwyn fel y Swyddog Cyswllt, dwi wedi dysgu cryn dipyn am y gwaith mae’r PAS yn gwneud i cofnodi artefactau ar gyfer y dyfodol. Mae fy sgilliau ffotograffeg wedi gwella o un peth, a mae darllen llyfrau arbenegol, er ei fod yn cymeryd amser, yn helpu adnabod artefactau anarferol. Trwy’r bas data enfawr PAS, gellir cymharu artefactau dros Cymru a Lloegr, a efallau gweld patrymmau yn y gwybodaeth sydd ar gael drwy gwaith trylwyr pawb sy’n cyfranu.

Be’ Nesaf?

Mae pob diwrnod cofnodi yn wahanol, a hyn sydd yn gwneud gwaith i PAS Cymru mor diddorol. Mae pob dydd yn wers archaeoleg, a cawn weld be fydd yn dod mewn i’r swyddfa yn y dyfodol.

Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.