Blog Homepage

Lleisiau o’r Archifau

Gareth Beech, 27 March 2019

Eitem arall yn y gyfres Lleisiau o’r Archifau o Archif Sain, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae’r gyfres hon yn cyd-redeg â gweithgareddau a digwyddiadau amaethyddol yr Amgueddfa. Ffermwyr oedd y siaradwyr, a oedd, fel arfer, wedi byw yn yr un ardal trwy gydol eu hoes. Mae’r disgrifiadau, y profiadau, yr atgofion, y lleisiau a’r acenion yn wreiddiol ac unigryw, o wahanol ardaloedd, ac o wahanol gyfnodau.

I gyd-fynd gyda’r wyna yn Llwyn-yr-eos, fferm yr Amgueddfa, dyma ddarn o recordiad o Dan Theophilus, Allt yr erw, Rhandir-mwyn, a recordiwyd ym mis Gorffennaf 1975, pan yn 65 oed. Mae’n sôn am wahanol agweddau ar wyna: gofalu am y defaid; delio gyda thrafferthion ac afiechydon; mabwysiadu oen; marcio clustiau; a throi’r defaid a’r wyn i’r mynydd.

Gareth Beech

Senior Curator: Rural Economy
Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.