Amgueddfa Blog

Blog Homepage

Cyfraniad Annest i broject Casglu Covid: Cymru 2020.

Mae'r plant yn treulio llawer gormod o amser ar sgriniau. Maent yn chwarae gemau cyfrifiadur gyda eu ffrindiau, megis Fortnite a Roblox. Dw i ddim yn eu rhwystro yn ormodol gan ei fod yn ffordd dda o aros mewn cysylltiad. Mae cwblhau gwaith ysgol o'r cartref wedi bod yn sialens, yn bennaf gan eu bod yn colli'r elfen "gystadleuol" o fesur eu cyflawniad yn erbyn eu ffrindiau. Mae fy merch wedi bod yn poeni yn ormodol am gwblhau eu gwaith a phryderu bod ei ffrindiau yn gwneud mwy na hi. Er hyn, mae fy merch 13 yn mwynhau y rhyddid o lockdown a ddim yn gweld eisiau y pwysau cymdeithasol sydd ar bobl ifanc. Mae fy mab 11 oed yn gweld eisiau cwmni ei ffrinidiau, ac eisiau dychwelyd i'r ysgol cyn gynted a phosib, ond dyw fy merch ddim eisiau dychwelyd!

Yn sicr, dw i'n casau mynd i'r siopa mawr erbyn hyn. Does neb llawer yn gwisgo mygydau, er ein bod mewn warws mawr heb ffenestri. Dw i'n prynu llawer iawn o'r siop Londis leol, er bod y prisiau yn ddrud. Dydw i heb geisio siopa ar-lein sut bynnag. Mae fy ngwr yn siopa llawer mwy nag o'r blaen, gan ei fod yn weithiwr allweddol ac yn mynd i'r gwaith yn y car. Dw i'n trio gwastraffu llai o fwyd, er mwyn cyfyngu ar sawl gwaith dyn ni'n mynd i'r siop. Dw i'n ceisio defnyddio llai o fwydydd mewn plastig gan ein bod yn bwyta pob pryd adref. Mae mwy o amser gen i i goginio prydau bwyd fy hunan, yn lle bwydydd parod mewn plastig neu gardfwrdd.

Ro'n i'n poeni cyn lockdown am yr effaith ar gymdeithas a lles economaidd unigolion a theuluoedd. Do'n i ddim yn ffan o'r cysyniad o lockdown cyn iddo ddechrau. Sut bynnag, des i arfer yn ddigon buan ac wedi mwynhau arafu bywyd. Ro'n i'n teimlo'n ddiogel adref ac yn mwynhau y diffyg pwysau i fynd a'r plant i'r ysgol, nofio, peldroed, ayyb. Mae llawer mwy o amser gyda fi i ddarllen ac ymlacio gan nad wyf yn teithio i unman. Sut bynnag, dw i'n dechrau poeni am y feirws eto nawr bod lockdown yn dod i ben. Wnes i ddechrau crio yn annisgwyl iawn yn ein archfarchnad fach leol yn ystod ail wythnos y lockdown. Nid achos y straen o giwio a'r diffyg bwyd, ond oherwydd yr arwyddion allanol iawn bod bywyd yn hollol wahanol erbyn hyn.

Mae daioni wedi codi o'r pandemig. Mae'r cwymp mewn ceir ar y ffyrdd wedi fy lloni, a dw i'n gobeithio gall hyn barhau. Dwi'n gobeithio bydd mwy o sylw yn mynd at newid hinsawdd o ganlyniad i'r newid mewn answadd yr aer. Dw i'n gobeithio bydd mwy o ryddid i bobl weithio o adref ac yn sgil hynny, cael mwy o amser i dreulio gyda'r teulu ar y penwythnos, yn enwedig merched. Erbyn hyn dw i'n teimlo fy mod i eisiau gweld newid pendant mewn cymdeithas ar ôl y pandemig, ac yn dechrau poeni na fydd cymdeithas yn cipio ar y cyfle i wneud gwellianau am y gorau. Ar yr ochr arall, dwi hefyd yn poeni bydd rhai yn cipio ar y cyfle i wneud newidiadau na fydd er lles cymdeithas yn gyffredinol, ac yn buddio y rhai sydd mewn pwer.

Leave a comment