: Gallery 1

Oriel 1

Chris Owen, 4 October 2007

Cyfarchion o Oriel 1!

Yr wythnos hon fe ges i gyfle i arbrofi gyda sesiwn i blant ysgolion cynradd r'yn ni wedi ei galw'n 'gemau dyfalu'. Dwi ddim yn siwr os yw hyn yn beth da neu'n beth drwg ond roedd yr Oriel fel syrcas am yr awr a finne ar fy nglinie am weddill y diwrnod! Bydd rhaid cael stamina gwell na hyn o rywle! Roedd ymateb y plant yn ddiddorol a'u gallu i gyffroi dros gynnwys yr Oriel yn wych!

Mae llawer o ymwelwyr wedi dangos brwdrydedd dros gynnwys yr Oriel newydd a gyda'r sylwadau cliriaf i aros yn fy nghof yw gwraig ganol oed yn dweud wrtha i, "This really is wonderful, but mind you, the old gallery was like a museum". Dwi ddim yn siwr os mai mynegi siom oedd hi neu beidio, efallai nad oedd hi'n gwybod yn iawn. Fodd bynnag mae'n sicr yn yr achos hwn, nad oedd cynnwys yr Oriel yn cydymffurfio i'r hyn yr oedd yr ymwelydd yn disgwyl ei weld yn yr amgueddfa. Gellir dadlau mai dyma enghraifft glir o'r Oriel yn deffro'r ymwelydd i'w amgylchedd gan ei atgoffa mai nid ymweld a'r amgueddfa er mwyn cael golwg ar y gorffennol a wna.

Dyma un sylwad a nodwyd ar gerdyn sylwadau am arddangosfa gyntaf yr Oriel, 'Perthyn', 'Hmmm, not sure what this is all about - Belonging - where?' A dddylai cynnwys yr Oriel gynnig atebion? Dyma sylwad arall sy'n treiddio i'r cwestiynau sylfaenol ynglyn a beth yw oriel ac amgueddfa.

Dewch draw i rhoi eich barn, neu rhowch sylwad yma os ydych chi wedi ymweld! Rwy ar ruthur braidd yn anffodus...ond wedi cael blas ar y blogio 'ma tro 'ma...felly mi fydda i nol ma arna i ofn!

Oriel 1

Anna Gruffudd, 6 September 2007

Wel dyma fi eto, mis yn ddiweddarach er mawr cywilydd, a finne wedi addo straeon am fywyd a chymeriadau Oriel 1.Rwy' wedi bod ar y galifant dros yr haf ar wyliau yn bwyta lot gormod o hufen ia.

Mae'r Oriel wedi bod yn llawn dros yr haf a phob math o bethau wedi digwydd! Penwythnos diwethaf roedd Pwyllgor Puja Cymru yn dathlu eu cysylltiadau a'r Oriel a chafwyd sioe ffasiwn, sgyrsiau a cherddoriaeth o India yn treiddio drwy'r Oriel.

Ar hyn o bryd mae'r ardal arddangosfeydd arbennig braidd yn llwm yr olwg, gwagleoedd ac olion papur wal gwaith yr artist Marc Rees yn dameidie ar y wal. Wir, roedd gweld ei waith a gwaith yr artistiaid Peter Finnemore, a Bedwyr Williams yn dod i lawr yn dristwch mawr! Rwy' wedi gweld eu gweithiau'n sbarduno cymaint o ymwelwyr i chwerthin, sgwrsio a chanu (!)yn yr Oriel.

Beth bynnag, mae'n amser cyffrous, mae'r waliau gwag yn aros i'w llenwi gan waith Mary Lloyd Jones. Bydd ei gwaith yn cyrraedd ddydd Llun ac ar y 4ydd o Hydref fe fydd lansiad y gwaith ac fe fydd hi'n rhoi sgwrs yn yr Oriel. Bydd gweithdai celf wedi seilio ar ei gwaith gyda'r cert celf yn ystod Hydref hefyd! Roedd y cert celf yn lwyddiant yn yr Oriel yn ystod mis Awst. Yn ogystal ag ysbrydoli'r plant yn yr Oriel bu Tracey Williams, un o'r artistiad a oedd yn gweithio gyda'r cert yn gyfrifol am fy ysbrydoli i wario ffortiwn ar baent acrylic i gael potsian fy hun!

Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar sesiwn i blant ysgol 5,6 oed i ddefnyddio'r Oriel.Rwy'n meddwl gwneud rhywfath o helfa drysor a chyflwyno'r holl beth drwy ddweud fod Anifeiliad yn byw yn yr Oriel ac eu bod nhw'n frindiau arbennig. Ond weithiau fy mod i'n drist iawn oherwydd fod fy ffrindiau i'n cuddio a weithiau mod i'n methu dod o hyd iddyn nhw. (Mae bob math o ddreigiau/cwn/ceffylau yng nghudd yn y gwrthrychau). Dim ond syniad! Rwy hefyd wedi bod yn gweithio ar sioe luniau i blant am begs dillad!!..Ym ie, cawn weld am hwnna!