Collections Online
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Advanced Search
Recordiad sain / Audio recording: Phoebe Evans
Recordiad hanes llafar Cymraeg gyda Phoebe Evans, Meidrim. Fe'i ganwyd ym Mlaenwaun, plwyf Tre-lech a'r Betws, yn 1889. Pwrpas y recordiad: Hanes bwydydd a wnaed o flawd ceirch neu fwyd sucan ers talwm. Rhan 4 o 6 (AV 2495/1, AV 2496/1, AV 2497/1, AV 2498/1, AV 2499/1, AV 2500/1). Welsh language oral history recording with Pheobe Evans, Meidrim.
Bara siprys - tebyg i fara ceirch ond yn gryfach. Cael llaeth > bl. ceirch a llaeth. Disgrifio ei wneud. Bwyd swper. Ei godi o'r ffwrn fach â lletwad i fasn. Rhoi'r ffwrn fach ar garreg las arbennig yng nghornel y simdde fawr. Ffwrno = crasu bara bob Gwener. Fflŵr < gwenith wedi'i dyfu gartref. Cymysgu'r bara mewn padel dun fawr. Berem shop a berem tafarn. Gwlychu bara = rhoi'r berem ynddo + dŵr claear. meiddu'r bara = to knead. Y ffwrn = ffwrn frics yng nghornel y simdde fawr â thân coed o dano. Y fflamau yn mynd i mewn idi wrth ei thwymo. Clawr cast arni. Llunio'r torthau a'u rhoi mewn tuniau. Torth ar lawr y ffwrn - astrynod. Rhido'r tins - sawl math ohonynt - rhai rhownd fel rheol. Marco top y dorth â chyllell. Crasu'r bara - 8 torth am ryw awr. Cnoc i waelod y dorth i'w phrofi. Rhoi'r torthau i oeri ar eu cant. Gwneud pwdin reis ar ddiwrnod ffwrno ar gyfer y Sul. Cymysgu pics a'u crasu ar ddiwrnod ffwrno - yn debyg i buns heddiw and wedi'u crasu bob ochr. bara cwrens. Rhannau'r dorth - grofen, tafell, c'nwyllyn, bara cletsh, hala b. menyn. Bara bach - ei wneud ar y planc <lard, siwgr a fflwr - torth fawr fflat. Ei wneud pan fyddai bara'n brin. Bara planc - toes cyffredin wedi'i grasu ar y planc.