Collections Online
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Advanced Search
Recordiad sain / Audio recording: Phoebe Evans
Recordiad hanes llafar Cymraeg gyda Phoebe Evans, Meidrim. Fe'i ganwyd ym Mlaenwaun, plwyf Tre-lech a'r Betws, yn 1889. Pwrpas y recordiad: Hanes bwydydd a wnaed o flawd ceirch neu fwyd sucan ers talwm. Rhan 3 o 6 (AV 2495/1, AV 2496/1, AV 2497/1, AV 2498/1, AV 2499/1, AV 2500/1). Welsh language oral history recording with Pheobe Evans, Meidrim.
Sucan < bwyd sucan. Ei roi yn lych dros nos. Y broses o'i baratoi a'i ferwi. Gwagar sucan - disgrifio. Berwi'r sucan a'i droi'n ofalus. Arllwys y sucan i bedyll tun i oeri a seto. Prawf o sucan da - wyneb y sucan yn llyfn - ddim wedi craco. Bwyta sucan i ginio adeg cynhaeaf gwair a medi. Cario'r pedyll allan i'r ydlan - cael cinio allan. Ei fwyta gyda llaeth oer. cisht i ddal y bl. ceirch a'r bwyd sucan - dwy haen i'r gisht. Whigin - y gweddillion ar ôl yn y gwagar sucan + dŵr oer. Ei yfed allan wrth y cynhaeaf. Bwdram - ei wneud o fwyd sucan etc. Ychwanegu sigwr a menyn a siensur etc. Bwyd i famau ar ôl geni plentyn - i fagu gwaed. Yn deneuach na sugan. Magu plentyn arno a'i roi mewn potel iddo. Rhinion - ceirch bras wedi'i ferwi. ei roi i wragedd ar ôl geni plentyn eto. Yn fwyd tebyg i Quaker Oats. Sopas - llaeth enwyn wedi suro a bl. ceirch ynddo. Bwyd swper fel rheol. Bara ceirch > bl. ceirch a dŵr clear. Hala b. ceirch â dwylo. Bras ddisgrifiad ô'r broses. Eu crasu ar blanc ar ben drybe. Tân coed ar llawr o dan y drybe. Eithin i helpu'r coed weithiau. Cadw'r b. ceirch mewn bacs pren arbennig yn y llaethdy.