Paratoi gwers (Welsh only)

Seiliwyd y gweithgareddau ar lefelau ALTE a dilynir trefn y patrymau a nodir yn y meysydd llafur MYNEDIAD, SYLFAEN, CANOLRADD ac UWCH.

Ffurfiau llafar 'deheuol' a welir yn y taflenni gwaith ond mae modd i diwtoriaid eu haddasu ar y we i gwrdd â'u gofynion arbennig.

Dylai tiwtoriaid baratoi myfyrwyr yn drylwyr cyn ymweld â'r Amgueddfa trwy gyflwyno'r patrymau a'r eirfa angenrheidiol iddynt. Dylid rhoi cyfarwyddiadau clir i bob grŵp cyn dechrau ar y gweithgareddau a dylent wybod lle y bydd y tiwtor ar gael.  Sicrhewch fod gan bob myfyriwr gopi o'r daflen / holiadur angenrheidiol ymlaen llaw a'u bod yn gwybod yn union beth  y disgwylir iddynt ei  wneud. Dylai'r tiwtor fod ar gael mewn man ganolog i dderbyn adborth gan y myfyrwyr ac i gynnig help yn ôl yr angen.

Dylid rhybuddio myfyrwyr rhag blaen y byddant yn clywed ffurfiau ieithyddol gwahanol i'r rhai a ddysgwyd iddynt. Os nad ydynt yn deall gofalwr yn siarad, dylent ofyn iddo ailadrodd yr hyn a ddywedodd yn araf. Dylid gofyn beth yw ystyr unrhyw air neu ffurf anghyfarwydd. Dylid sicrhau bod y dysgwr (yn enwedig dechreuwyr pur) yn gyfarwydd ag ymadroddion fel, 'Eto, os gwelwch yn dda.'; 'Siaradwch yn araf'; 'Dw i ddim yn deall' etc.

Ar ôl eich ymweliad

Cofiwch ddefnyddio'r sesiynau'r dosbarth ar ôl yr ymweliad i gadarnhau unrhyw batrymau neu eirfa a godwyd.

Ceisiwch dynnu sylw'r dysgwyr at gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg o fewn eu cynefin. Mae llawer o'r unedau yn gyffredinol eu hapêl a'u defnydd a gellir eu gweithredu yn ardal y dosbarth.