Trefniadau (Welsh only)

Mae'n bwysig eich bod chi'n galw'r Adran Addysg ar (029) 2057 3403/3424 o flaen llaw i archebu  lle. Er mwyn osgoi siom, rydym ni'n argymell eich bod chi'n archebu o leiaf bythefnos o flaen llaw (yn gynt os ydych chi am drefnu sgwrs benodol, lefel uwch) gan fod cyfyngiad ar nifer y grwpiau y gellir eu derbyn mewn diwrnod. Dewch nôl atom cyn gynted ag y bo modd os ydych chi am newid manylion eich ymweliad.

Mae mynediad i'r Amgueddfa am ddim; codir tâl am barcio ceir (£2 y car neu £10 am docyn 12 mis).

Bydd angen i chi fod â'r wybodaeth ganlynol wrth law:

  • Nifer y bobl sydd yn eich grŵp.
  • Tua faint o'r gloch rydych chi'n disgwyl cyrraedd a gadael y safle.
  • Pa lefel o weithgareddau mae eich grŵp yn bwriadu eu gwneud (e.e. mynediad, uwch).
  • Os ydych am weithio mewn adeilad penodol am gyfnod
    Gallwn ddweud wrthych os oes unrhyw broblem, e.e. gall yr adeilad fod ar gau ar gyfer gwaith cadwraeth adeg eich ymweliad.
  • Os ydych chi am ymweld â'r Tŷ Gwyrdd, Ysgol Maestir, Rhyd-y-car neu'r Pentre Celtaidd.
    Mae'r adeiladau yma'n boblogaidd iawn gyda grwpiau, ac os ydych chi'n cyrraedd yr adeiladau yma tra bo grŵp arall yn ymweld, ni fydd modd i chi i fynd i mewn, felly mae'n bwysig trefnu amser arbennig.
  • Os ydych chi am gael sgwrs (ar gyfer y gwaith lefel uwch) gan aelod penodol o staff yr Amgueddfa.
  • Os ydych chi am ymweld â'r gwehyddion yn y felin wlân, neu'r melinydd yn y felin flawd – dydy pob crefftwr ddim ar gael bob dydd.