Press Releases

Brewin Dolphin continue relationship with Wales’ national museums

Corporate Sponsorship deal renewed

Mae un o brif gwmnïau rheoli cyfoeth y DU, Brewin Dolphin, wedi cadarnhau y byddant yn parhau i noddi cynllun Noddwyr Amgueddfa Cymru am ddwy flynedd arall, tan 2021.

Mae Brewin Dolphin yn pontio’r byd celf a busnes, ac wedi bod yn ariannu Cynllun Noddwyr Amgueddfa Cymru, sydd â dros 150 o aelodau, ers 2016.

Mae’r incwm a geir gan Noddwyr yn cefnogi gwaith craidd Amgueddfa Cymru. Defnyddir y rhoddion blynyddol hael hyn i ariannu pob math o weithgareddau a chaffaeliadau ar draws ein saith safle, a sicrhau dyfodol ariannol cynaliadwy i’r Amgueddfa.

Bydd y cytundeb dwy flynedd newydd gyda Brewin Dolphin yn caniatáu i’r berthynas bwysig rhwng yr Amgueddfa a’i noddwyr barhau i ffynnu. 

Dywedodd Richard Kelly, Uwch Reolwr Buddsoddi, Brewin Dolphin Caerdydd:

“Pleser yw parhau i gefnogi Amgueddfa Cymru, drwy adnewyddu ein nawdd ar gyfer cynllun y Noddwyr. Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae ein staff a’n cleientiaid wedi gallu profi casgliadau ac arddangosfeydd amrywiol yr Amgueddfa, a thrwy adnewyddu’r nawdd, rydym yn bwriadu datblygu ein cefnogaeth ymhellach. Edrychwn ymlaen at rannu twf a llwyddiant parhaus Amgueddfa Cymru a hyrwyddo ei gwaith da i’n cleientiaid.”

Ychwanegodd Richard Nicholls, Cyfarwyddwr Datblygu Amgueddfa Cymru:

“Rydym yn ffodus iawn o dderbyn nawdd mor hael unwaith eto gan Brewin Dolphin.

“Mae hefyd wedi bod yn wych i groesawu Brewin Dolphin i’n hamgueddfeydd dros y tair blynedd ddiwethaf, a rhoi’r cyfle iddynt ddysgu am ein casgliadau, mwynhau ein digwyddiadau, a gwirfoddoli yn Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.”

 

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i’r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Enillodd un o’r amgueddfeydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, sy’n trafod hanes a diwylliant Cymru, wobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019.

Fel elusen gofrestredig, rydyn ni’n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.