CAERDYDD 20

European Museum of
the Year Awards

Important: Coronavirus (COVID-19)

Unfortunately, the European Museum of the Year Awards and Conference due to take place in Cardiff on 29 April – 2 May 2020 has been postponed due to the global Covid-19 pandemic. The wellbeing of delegates, as well as our visitors, staff and volunteers are our priority and it is with this in mind that we have taken this decision.

We remain in discussion with the European Museum Forum about a future date, and further updates will be shared here, via our website and social media channels. All ticket holders will be issued a refund, and sent details on how to rebook once a future date is confirmed.

Travel from airports

Cardiff International Airport - www.cardiff-airport.com

There are several bus services that run into Cardiff City Centre including a bus/train service that will bring you to Cardiff Central. A shuttle bus service will take you from the airport to the train station in Rhoose. Check the times, particularly for services on Sundays. It costs around £35 to take a taxi.

Bristol Airportwww.bristolairport.co.uk/

Coaches now run from Bristol to Cardiff taking 1hr 40mins. Check the timetable though as they do not run all night. There is also a regular bus shuttle (Airport Flyer) linking to and from Bristol Temple Meads railway station.

London Gatwickwww.gatwickairport.com

The train to Cardiff Central takes about 3.5 hours. The most straightforward route is to change trains in Reading. www.nationalrail.co.uk. Booking in advance and at off peak times can reduce the costs.

Some services go into London but these will require using the Underground.

A number of bus companies including National Express and Megabus runs buses from Gatwick to Cardiff Bus station

London Heathrowwww.heathrowairport.com

The train to Cardiff Central takes just under 3 hours. There are several routes. The most straightforward service is to take the Heathrow Express to London Paddington and change to the Cardiff train. www.nationalrail.co.uk

RAILAIR – a coach service runs from Heathrow Central bus station and will take you to Reading Railway station in about an hour: www.railair.com. You will need to order the train tickets for Reading to Cardiff separately from RAILAIR.

A number of bus companies including National Express and Megabus runs buses from Gatwick to Cardiff Bus station

Travelling by train

Cardiff has a good network of trains and is a relaxing way to travel, though not always the cheapest. For longer journeys e.g. to London, Bristol or Bath try to pre-book tickets for the best prices. Pre-booked tickets can be picked up at booths at most of the major stations. http://www.nationalrail.co.uk/ has all of the train times and fares, the national rail app also provides all train travel information.

Driving

The main access route through South Wales is the M4. Cardiff City Centre can be reached via junctions 29 [for A48(M)] to 33.


Pwysig: Coronafeirws (COVID-19)

Yn anffodus, mae Gwobrau a Chynhadledd Amgueddfa Ewropeaidd y flwyddyn, oedd fod i ddigwydd yng Nghaerdydd ar 29 Ebrill-2 Mai 2020, wedi cael eu gohirio oherwydd pandemig byd-eang Covid-19. Iechyd a lles ein mynychwyr, yn ogystal ag ymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr, yw ein blaenoriaeth, a dyna oedd wrth wraidd ein penderfyniad.

Rydym yn dal i drafod gyda Fforwm Amgueddfeydd Ewrop ynghylch dyddiad newydd, a byddwn yn rhannu unrhyw newyddion yma ar ein gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol. Bydd pawb sydd wedi prynu tocyn yn derbyn ad-daliad, a byddwn yn anfon manylion ar sut i ail-archebu unwaith y bydd y dyddiad newydd wedi’i gadarnhau.

Teithio o Feysydd Awyr

Maes Awyr Ryngwladol Caerdydd www.maesawyr-caerdydd.com

Mae sawl gwasanaeth bws yn rhedeg i ganol Dinas Caerdydd, gan gynnwys gwasanaethau bws/trên fydd yn dod â chi i ganol Caerdydd. Mae bws gwennol ar gael sydd yn cludo teithwyr o’r maes awyr i’r orsaf drenau yn y Rhws. Edrychwch ar yr amseroedd cyn trefnu, yn enwedig ar wasanaethau ar y Sul. Mae'n costio tua £35 i deithio o'r maes awyr i Gaerdydd mewn tacsi.

Maes Awyr Bryste www.bristolairport.co.uk/

Mae bysiau bellach yn rhedeg o Fryste i Gaerdydd gan gymryd o ddeutu 1awr 10munud. Gwiriwch yr amserlen gan nad ydynt yn rhedeg drwy'r nos. Mae bysiau gwennol hefyd yn cysylltu â gorsaf reilffordd Temple Meads ym Mryste yn rheolaidd.

Maes Awyr Gatwick Llundainwww.gatwickairport.com

Mae’r trên i Caerdydd Canolog yn cymryd o ddeutu 3.5 awr. Y daith symlaf yw newid trenau yn Reading. www.nationalrail.co.uk. Gall archebu lle ymlaen llaw ac ar adegau tawel leihau’r costau.

Mae rhai gwasanaethau yn mynd i mewn i ganol Llundain, felly bydd angen defnyddio’r rheilffordd danddaearol.

Mae sawl cwmni bws gan gynnwys National Express a'r Megabus yn rhedeg bysiau o Gatwick i orsaf bysiau Caerdydd.

Maes Awyr Heathrow Llundainwww.heathrowairport.com

Mae'r trên i ganol Caerdydd yn cymryd ychydig dan 3 awr. Mae sawl dewis o siwrnai ar gael. Y gwasanaeth symlaf yw dal yr Heathrow Express i Paddington yn Llundain a dal trên yno i Gaerdydd. www.nationalrail.co.uk

RAILAIR – Mae’r gwasanaeth fysiau yn rhedeg o orsaf fysiau canolog Heathrow a bydd yn mynd â chi i'r orsaf reilffordd yn Reading mewn tuag awr: www.railair.com. Bydd angen archebu tocynnau trên o Reading i Gaerdydd ar wahân i’r tocynnau RAILAIR.

Mae sawl cwmni bws gan gynnwys National Express a'r Megabus yn rhedeg bysiau o Gatwick i orsaf bysiau Caerdydd.

Teithio ar drên

Mae gan Gaerdydd rwydwaith dda o drenau ac mae'n ffordd dda o ymlacio wrth deithio, er ddim y ffordd rataf bob tro. Ar gyfer teithiau hirach e.e. i Lundain, Bryste neu Caerfaddon ceisiwch archebu tocynnau ymlaen llaw er mwyn cael y prisiau gorau. Gellir archebu tocynnau ymlaen llaw mewn bythau yn y rhan fwyaf o'r prif orsafoedd. Mae modd gweld holl amseroedd trenau a’r prisiau ar wefan National Rail, neu gallwch lawr lwytho app National Rail sydd hefyd yn cynnwys manylion teithio.

Gyrru

Y brif ffordd drwy dde Cymru yw'r M4. Gellir cyrraedd canol dinas Caerdydd o gyffordd 29 [ar gyfer yr A48 (M)] i 33.