CAERDYDD 20

European Museum of
the Year Awards

Keynote speakers

Important: Coronavirus (COVID-19)

Unfortunately, the European Museum of the Year Awards and Conference due to take place in Cardiff on 29 April – 2 May 2020 has been postponed due to the global Covid-19 pandemic. The wellbeing of delegates, as well as our visitors, staff and volunteers are our priority and it is with this in mind that we have taken this decision.

We remain in discussion with the European Museum Forum about a future date, and further updates will be shared here, via our website and social media channels. All ticket holders will be issued a refund, and sent details on how to rebook once a future date is confirmed.

Sophie Howe, Future Generations Commissioner

Sophie was appointed as the first Future Generations Commissioner for Wales in February 2016. Her role is to act as a guardian for the interests of future generations in Wales, and to support the public bodies listed in the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 to work towards achieving the well-being goals. Prior to this role, Sophie was the first Deputy Police and Crime Commissioner for South Wales and the only woman in a police commissioner leadership role in Wales. In this role, she led programmes to tackle violent crime and violence against women and girls, focusing on early intervention and partnership working particularly with health. She reformed programmes on substance misuse and offender management and led a review of women in policing as well the Force's work to increase recruitment of black and monitory ethnic officers and staff.

Sophie served as a Government Special Adviser from 2009-2013 providing policy and political advice on communities, local government, community safety, housing, regeneration and equality to the Cabinet and First Minister. With a background in equality and diversity having managed the legal department in the Equal Opportunities Commission and subsequently as a policy adviser in the Equality and Human Right Commission, Sophie chaired and wrote the report of the Councillors Commission Expert Panel on increasing diversity in Local Government. Sophie served as a County councillor in Cardiff - having been elected at the age of 21 she became the youngest Councillor in Wales. During her nine years as a Councillor she was Deputy Leader of the Opposition for a period, as well as a member of the Children and Young People Scrutiny and planning Committees.

She is currently a member of the Wales Committee of the Equality and Human Rights Commission and is Chair of the international Network of Institutions for Future Generations. She lives in Cardiff with her husband Ceri and their five children.

Dr Wanda Wyporska, Executive Director

Dr Wanda Wyporska, FRSA, is Executive Director at The Equality Trust, the national charity that campaigns to reduce social and economic inequality. She is a Visiting Research Fellow at the University of York, a trustee of ACEVO (Association of Chief Executives of Voluntary Organisations), Redthread Youth, and Equally Ours and Governor of a primary school. She is a regular keynote speaker and sits on or has advised a range of bodies, such as the ACEVO race advisory panel, the Fight Inequality Alliance Steering Group, the Sheila McKechnie Foundation Social Power review, NUS Poverty Commission and the Sex Education Forum Advisory Group.

Wanda has over a decade of experience working in the trade union movement, leading on equalities, social mobility and education policy and is an experienced campaigner. She is a TEDx speaker, has spoken at the United Nations, York Festival of Ideas, and chaired a panel at the Women of the World Festival. She regularly comments in the media, having appeared on Newsnight, BBC Radio 4's The Moral Maze, Sky News, and BBC 1's The Big Questions, adn written for The Guardian, HuffPo, and The Independent among other outlets.

Wanda was a Starun Senior Scholar at Hertford College, Oxford, where she was awarded a doctorate in European History and subsequently published her first book, Witchcraft in Early Modern Poland 1500-1800 in 2013. It was shortlisted for the Katharine Briggs Folklore Award.

David Anderson, Director General Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

David Anderson was born in Northern Ireland, grew up in England, and studied Irish History at Edinburgh University. After first working as a history teacher in a state school, he began his museum career as an educator at the Royal Pavilion and Museums, Brighton, before moving to the National Maritime Museum in Greenwich, and then the V&A, where he was Director of Learning and Interpretation until 2010. As Co-Director from 2004 of the Exhibition Road Cultural Group, a partnership of museums, universities and cultural institutions, he made a significant contribution to the re-development of the area as London's first cultural quarter. In 2010 he joined Amgueddfa Cymru - National Museum Wales as Director General. From 2013 to 2015 he was President of the UK Museums Association.

David Anderson is also a Board member of Creative and Cultural Skills and a member of the Advisory Committee of British Council Wales. He has written many articles on museums and cultural policy, a UK government report on museums and learning, and two children's books.

At Amgueddfa Cymru, he has overseen the transformation of St Fagans Museum to become the National Museum of History for Wales, and the development of new programmes and research on the role of museums in society, including initiatives to redress the impacts of poverty on children through cultural participation. He has also established a Research Department to support both curatorial and learning research. David is committed to the development of cultural democracy in museums.

Amito Haarhuis, Director

I have spent my whole career working on quality science education, from being a STEM teacher trainer and author of a study book for student teachers, a presenter of science experiments in a television show, to creating memorable experiential learning experiences in a science museum. As the Deputy Director of NEMO Science Museum in Amsterdam, I was concerned with transforming the museum in a 21st century context. Since 1 April 2018, I am the Director of Rijksmuseum Boerhaave in Leiden, the Netherlands. After a major transformation, the museum reopened in December 2017, and for the new concept it received the European Museum of the Year Award 2019.

Pwysig: Coronafeirws (COVID-19)

Yn anffodus, mae Gwobrau a Chynhadledd Amgueddfa Ewropeaidd y flwyddyn, oedd fod i ddigwydd yng Nghaerdydd ar 29 Ebrill-2 Mai 2020, wedi cael eu gohirio oherwydd pandemig byd-eang Covid-19. Iechyd a lles ein mynychwyr, yn ogystal ag ymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr, yw ein blaenoriaeth, a dyna oedd wrth wraidd ein penderfyniad.

Rydym yn dal i drafod gyda Fforwm Amgueddfeydd Ewrop ynghylch dyddiad newydd, a byddwn yn rhannu unrhyw newyddion yma ar ein gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol. Bydd pawb sydd wedi prynu tocyn yn derbyn ad-daliad, a byddwn yn anfon manylion ar sut i ail-archebu unwaith y bydd y dyddiad newydd wedi’i gadarnhau.

Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

Penodwyd Sophie yn Gomisiynydd cyntaf Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ym mis Chwefror 2016. Ei rôl yw gweithredu fel gwarcheidwad buddiannau cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru, a chefnogi'r cyrff cyhoeddus a restrir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i weithio tuag at gyflawni'r nodau llesiant. Cyn y rôl hon, Sophie oedd Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd cyntaf De Cymru a'r unig fenyw yn rôl arweiniol fel comisiynydd yr heddlu yng Nghymru. Yn y rôl hon, arweiniodd raglenni i fynd i'r afael â throseddau treisgar a thrais yn erbyn menywod a merched, gan ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a gweithio mewn partneriaeth yn enwedig gydag iechyd. Fe ddiwygiodd raglenni ar gamddefnyddio sylweddau a rheoli troseddwyr gan arwain adolygiad o fenywod yn yr heddlu yn ogystal â gwaith yr Heddlu o ran recriwtio mwy o swyddogion a staff ethnig a du.

Bu Sophie’n Ymgynghorydd Arbennig i'r Llywodraeth rhwng 2009 a 2013 gan roi cyngor polisi a gwleidyddol ar gymunedau, llywodraeth leol, diogelwch cymunedol, tai, adfywio a chydraddoldeb i'r Cabinet a'r Prif Weinidog. Gyda chefndir ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth ar ôl rheoli'r adran gyfreithiol yn y Comisiwn Cyfle Cyfartal ac wedi hynny fel ymgynghorydd polisi yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, bu Sophie yn Gadeirydd ac yn awdur adroddiad Panel Arbenigol Comisiwn y Cynghorwyr ar gynyddu amrywiaeth mewn llywodraeth leol. Bu Sophie’n gynghorydd sir yng Nghaerdydd - ar ôl cael ei hethol yn 21 oed, hi oedd y cynghorydd ieuengaf yng Nghymru. Yn ystod ei naw mlynedd fel cynghorydd bu'n Ddirprwy Arweinydd yr Wrthblaid am gyfnod, yn ogystal â bod yn aelod o'r pwyllgorau craffu a chynllunio ar gyfer plant a phobl ifanc.

Ar hyn o bryd mae'n aelod o Bwyllgor Cymru ar y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac mae'n Gadeirydd ar y Rhwydwaith Rhyngwladol o Sefydliadau ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr Ceri a'u pump o blant.

Dr Wanda Wyporska, Cyfarwyddwr Gweithredol

Mae Dr Wanda Wyporska, FRSA, yn Gyfarwyddwr Gweithredol yn yr Ymddiriedolaeth Cydraddoldeb, yr elusen genedlaethol sy'n ymgyrchu i leihau anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd. Mae hi'n Gymrawd Ymchwil Ymweld ym Mhrifysgol Caerefrog, yn Ymddiriedolwr gydag ACEVO (Cymdeithas Prif Weithredwyr Mudiadau Gwirfoddol), Redthread Youth, ac Equally Ours ac yn llywodraethwr ysgol gynradd. Mae'n brif siaradwr profiadol ac mae wedi cynghori cyrff ac yn aelod o amryw o gyrff, megis panel cynghori ar hil ACEVO, grŵp llywio'r Fight Inequality Alliance, Sheila McKechnie Foundation Social Power Review, Comisiwn Tlodi Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a Grŵp Cynghori'r Fforwm Addysg Rhyw.

Mae gan Wanda dros ddegawd o brofiad yn gweithio yn y mudiad undebau llafur, gan arwain ar gydraddoldeb, symudedd cymdeithasol a pholisi addysg ac mae'n ymgyrchydd profiadol. Mae'n siaradwr TEDx, mae wedi siarad yng Ngŵyl Syniadau'r Cenhedloedd Unedig, Caerefrog, ac wedi cadeirio panel yng Ngŵyl Menywod y Byd. Mae hi'n sylwebydd cyson yn y cyfryngau, ac wedi ymddangos ar Newsnight, BBC Radio 4 The Moral Maze, Sky News, a BBC1 The Big Question, ac wedi ysgrifennu ar gyfer The Guardian, HuffPo, a'r Independent ymhlith cyfryngau eraill.

Roedd Wanda yn Uwch Ysgolhaig Starun yng Ngholeg Hertford, Rhydychen, lle dyfarnwyd doethuriaeth iddi mewn Hanes Ewrop ac wedi hynny cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, Witchcraft in Early Modern Poland 1500-1800 yn 2013. Roedd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr llên gwerin Katharine Briggs.

David Anderson – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru

Ganed David Anderson yng Ngogledd Iwerddon, fe'i magwyd yn Lloegr, ac astudiodd hanes Iwerddon ym Mhrifysgol Caeredin. Ar ôl gweithio'n gyntaf fel athro hanes mewn ysgol wladol, dechreuodd ei yrfa amgueddfaol fel addysgwr yn y Pafiliwn Brenhinol ac Amgueddfeydd yn Brighton, cyn symud i'r Amgueddfa Forwrol Genedlaethol yn Greenwich, ac yna'r V&A, lle'r oedd yn Gyfarwyddwr Dysgu a Dehongli tan 2010. Fel cyd-gyfarwyddwr ers 2004 gyda Grŵp Diwylliannol Exhibition Road, sef partneriaeth o amgueddfeydd, prifysgolion a sefydliadau diwylliannol, gwnaeth gyfraniad sylweddol i ailddatblygu'r ardal fel ardal ddiwylliannol gyntaf Llundain. Yn 2010 ymunodd ag Amgueddfa Cymru fel Cyfarwyddwr Cyffredinol. O 2013 i 2015 bu'n Llywydd Cymdeithas Amgueddfeydd y Deyrnas Unedig.

Mae David Anderson hefyd yn aelod o Fwrdd Sgiliau Creadigol a Diwylliannol ac yn aelod o Bwyllgor Cynghori British Council Cymru. Mae wedi ysgrifennu llawer o erthyglau ar amgueddfeydd a pholisi diwylliannol, adroddiad gan Lywodraeth y DU ar amgueddfeydd a dysgu, a dau lyfr i blant.

Yn Amgueddfa Cymru, mae wedi goruchwylio'r gwaith o weddnewid Amgueddfa Sain Ffagan i fod yn Amgueddfa Hanes Genedlaethol Cymru, a datblygu ymchwil a rhaglenni newydd ar rôl amgueddfeydd mewn cymdeithas, gan gynnwys mentrau i unioni effeithiau tlodi ar blant drwy gyfranogiad diwylliannol. Mae hefyd wedi sefydlu Adran Ymchwil i gefnogi ymchwil guradurol a dysgu. Mae David yn ymrwymedig i ddatblygu democratiaeth ddiwylliannol mewn amgueddfeydd.

Amito Haarhuis, Cyfarwyddwr

Rwyf wedi treulio fy ngyrfa gyfan yn gweithio ym maes addysg gwyddoniaeth o'r radd flaenaf, o fod yn hyfforddwr athrawon STEM ac yn awdur llyfr astudio ar gyfer athrawon dan hyfforddiant, cyflwynydd arbrofion gwyddoniaeth mewn sioe deledu, i greu profiadau dysgu cofiadwy mewn amgueddfa wyddoniaeth. Fel Dirprwy Gyfarwyddwr Amgueddfa Wyddoniaeth NEMO yn Amsterdam, bûm ynghlwm â’r gwaith o weddnewid yr Amgueddfa yng nghyd-destun yr unfed ganrif ar hugain. Ers 1 Ebrill 2018, fi yw Cyfarwyddwr Rijksmuseum Boerhaave yn Leiden, yr Iseldiroedd. Ar ôl trawsnewidiad mawr, ailagorodd yr amgueddfa ym mis Rhagfyr 2017, ac fe dderbyniodd wobr Amgueddfa Ewropeaidd y Flwyddyn 2019 ar gyfer y cysyniad newydd.