The Welsh dialect of Bryn-Crug, Merioneth
Merionethshire Welsh
The recording
An example of the Welsh dialect of Bryn-Crug, Merionethshire by Mrs Enid.
A ’dyn mynd i’r ysgol i Abergynolwyn. Cerddad, wth gwrs, bob dydd, yndê. Cerddad yn bora, cychwyn tua wyth o’r gloch i fod yna erbyn naew.
Ag, oeddan ni’n myn’ ’no ddae yn y gia, ond yn y gwanwyn o’ ’na dipyn o stelcian o gwmpas, edrych am adar... am nythod adar bch, yndê, a bloda gwylltion ag ati. A ’dyn oddan ni’n myn’ â’n bwyd efo ni a cael yn bechdan, a... a’n panad o de efo ryw hen wraig yn Abergynolwyn, Sara Huws oddan ni’n galw ’i. A wedyn cerddad adra amsar te, yndê.
geuthon ni dipyn o dywydd wth gwrs, yn y gaea, yr eira ag ati.
A cherddad trwy bob tywydd...A cerddad trw bob tywydd. Amball i waith oddan ni’n cael reid, a ma’ ’i’n beth rhyfadd, dan ni’n cofio bob reid oddan ni’n arfar gael amsar ’ynny. A gwaetha modd yn cofio rhai odd yn pasho ni hefyd! [Chwerthin.] Ond, odd y... rhai, o’ ’na’m llawar o geir, wth gwrs, ond oedd, oedd rhai yn ffeirid iawn, yn codi ni. Ac ar bob dy’ Merchar oe’ ’na felun yn Bryn-crug, a ‘dyn oedd hen ŵr y felun yn mynd â blawd i fyny i Abyrgynolwyn i’r... iddyn nw gal pobi ’ndê. A ’dyn oddan ni cal lifft i lawr wedyn ar y gert a’r ceffyl, yndê. /Go dda!/ Odd o’n amsar diddorol iawn...
Odd Mrs Davies yn dweud ’tha’ i bod ych mam, ie, yn gneud ryw feddyginiaetha mawr.
O, yn nhaed... ym... ia, wel odd Mam yn neu... yn gneud y ffisig ’ma iddo fo, at y cryd melyn — dach chi ’di clŵad am y cryd melyn? Yellow jaundice, yndê, yn Sisnag. Ag ym... o, oedd, oedd, oeddan ni blant yn, hwyl fawr, bobol yn dod lawr ar y bus, yndê, ag oddan ni’n arfar gweiddi ar ’y nhaed a gorod dŵad o waith y ffarm, yndê, a ‘patient chi ’di dŵad, Dad...!’
[Chwerthin.]
Ag y... a ’dyn odd o’n arfar mesur eda, mesur dafadd, wel fues i’n dal y dafadd lawer gwaith iddo fo, i... i edrych — oedd raid ’ddo fo gel gwybod faint odd oed y person a pa bryd y ganwyd o ag ati, yndê, pa flwyddyn. Ag wedyn odd o’n... yn gweithio rwbath, a ddaru fi ’rioed ofyn ’ddo fo sut oedd o yn gneud o. Oedd o’n arfar gweithio rwbath allan a cyfri, mesur yr eda ’ma, yndê. Ag ’ydyn oedd o’n rhoud yr eda, y ’dafadd, i’r person ar ôl fesur o dair gwaith fel’na. A rhoud y dafadd... A ’dyn odd y person yn rhoud hi am ’i, am ’i goes. Ag os oedd y cryd melyn yn gwella odd’ arno fo, oedd yr edafadd yn cwmpo lawr. Ag oedd o’n gweithio — sut dwi’m yn gwybod, ond dyna un o’r hen, yr hen feddyginiaetha, yndê.
Ag oedd ’y mam yn arfar neud y ffisig iddo fo. Oedd o’n arfar cael, mynd i’r gwrych o’r tu allan, a torn rhyw bren, bren cryd melyn oddan ni’n arfar ’i alw fo. Ag oedd o’n tynnu’r croen i ffwr’, y rhisgil, a y peth ar ôl, cyd.., o dan y rhisgil, cyd-rhwng hwnnw a’r pren. Hwnnw odd o’n neud y ffisig, ag odd o’n felyn felyn... y darn o’r pren ’ynny ’nde. Ag, rhwng... ryw betha erill o’ genno fo yn yr ardd, oedd Mam yn arfar cael y llysha ’ma yndê.
Pa bren odd hwnnw, dach chi’n gwbod?
Y pren cryd melyn ’ma, naeg dw, sgena i’m syniad be dio, nae dw, dim ond bod o’n galw fo pren cryd melyn a dyna fo, yndê.
A’r, o, y bwyd bob amser, cneifio, bwyd dae, yndê. Agor y stafell ora bob amsar, llond cegin a’r stafell ora ’ndê o ddynion. O’ ’na dros ugian i gyd bob amsar. A’r dynion... oddan ni wth yn bodd, fel oddan ni’n tyfu’n ifanc, wedyn, yn cel yr hogia ifanc yn dod i gneifio, yndê..
Ag oddan nw bob amsar yn molchi tu allan, dach chi’n gwbod, mynd â dŵr mewn desgil iddyn nw allan yndê, a ’dyn, o, yr hen hogia’n llycho’r dŵr ar... penna ’i gilydd ag ati. Oe’ ’na hwyl, ddigon o hwyl. Ag amsar yr injam ddyrnu wedyn, ... dod i ddyrnu’r... y... grawnwin yndê, or wth y... gwêllt. A helynt fawr cael yr injam i ddŵad achos... Gor... mynd a ceffyla a tynnu’r injam, yndê, yn enwedig amball i hen geffyl styfnig, dach chi’n gwbod, a hwnnw’n ’cau tynnu efo’r lleill, yn strancio ’wrach. O, oeddan ni ofn i’r dynion frifo’n ofnadwy amsar ’ny.