Mawrth 20, 2007
20 March 2007
,Wythnos dipyn yn llai bownslyd sydd wedi mynd heibio - mae'n si?r nad fi yw'r cynta' i fod 'chydig bach yn rhy optimistig ar ddechre mis Mawrth. Ei sgil effaith, wrth gwrs, oedd fy mod wedi defnyddio fy nognau egni i gyd erbyn dydd Gwener (ac wedi anghofio, fel ffwl, am y penwythnos prysur o fy mlaen: Caerdydd gyfan, yn sicr o fod â chlamp o Benmaenmawr wedi'r gêm, yn crwydo'r parc fel zombies gwyrdd!)
Mae cyfarch a sgwrsio 'da'r cyhoedd yn fusnes blinedig. Mae dewis ei wneud mewn dillad rhy frau, ar ddiwrnod arbennig o oriog, yn fusnes blinedig a gwirion.
Ac felly mae'r chill cyfarwydd yn dangos ei ben, ac yn sydyn reit dwi'n teimlo'n swrth ac oer - efo dim ond clogyn brethyn Tuduraidd yn y swyddfa'n gwmpeini cynnes (a hwnnw'n edrych yn wirioneddol sdiwpid ar ben jîns!) Mae gennai got Ray Mears ar sêt deithiwr y car. Peth anferth, bob tywydd. Pob poced yn llawn teclynnau anhepgor, abswrd rhywun sy'n treulio lot gormod o amser mewn Amgueddfa awyr agored - tortsh, matsys, cliciwr-cyfri, cyllell boced, mapiau a phisys o bapur yn f'atgoffa i ffonio 'Catholic Living Magazine'. Dim iws i neb ar sêt y 'Pyrjo' yn y maes parcio. Y clogyn amdani te. Cam amgen i fyd 'dehongli byw' ar bnawn Sadwrn, yn enw cynhesrwydd!
Diar mi - fe soniais i, yndo, pa mor hawdd ydi datblygu obsesiwn efo'r tywydd yn Sain Ffagan, a dyma fi, unwaith eto, yn swnian am yr oerfel.
Yn fyr - dwi 'nôl yn y Swyddfa Gynnes r?an, ac wedi llowcio cymaint o fitaminau dwi'n gneud s?n fel ratl babi pan dwi'n symud. Maen nhw ar y ddesg, drws nesa' i'n hylif haul - mae o wedi bod yn eistedd yno'n optimistig ers mis Awst diwethaf...