Mawrth 13, 2007 David Thorpe, 13 March 2007 Waw am ddiwrnod braf! Helo! Diwrnod o waith swyddfa sydd gen i heddiw, ond ces gyfle i fynd allan i grwydro'r safle bore 'ma cyn cwrdd â gr?p o ymwelwyr o Benarth.Fe fuom ni'n sbecian o amgylch yr Eglwys - minnau a Ray Smith (Pen Saer - yn yr ystyr llythrennol - yr Amgueddfa) yn ateb cwestiynau a sgwrsio. Mae Ray wedi bod yn gweithio yn Sain Ffagan ers sbelen r?an: a dweud y gwir, mae wedi bod yn gweithio ar brosiect yr Eglwys ers ei chychwyn (h.y. pan oeddwn i'n fabi bach bochgoch).O edrych yn ofalus ar luniau yn ein archifau, gellir ei sbotio, mewn du a gwyn, yn gweithio ar brosiect adeiladu Siop Gwalia, ac ar Institiwt Glowyr Oakdale hefyd. Ei orchwyl, ar hyn o bryd, yw cerfio bywyd Teilo Sant (cewch air am weddill ei gampweithiau mewn post nes ymlaen!) Mae'n defnyddio un darn o dderw Cymreig, un-troedfedd-ar-bymtheg o hyd - a chan ei bod hi dipyn yn gynhesach tu allan, mae wedi symud yn ôl i fyny i'r Eglwys i weithio. Dwi'n falch o gael ei gwmpeini, am ei fod yn llawn hwyl a gwybodaeth am bawb a phopeth yn Sain Ffagan (ac hefyd yn wrandawr da iawn pan fydda i'n troi'n Strempan oriog ar foreuau glawog). Os ddewch chi i fyny i'r Eglwys rywdro, mynnwch sgwrs ag e - ar yr amod y byddwch chi'n glou: mae gwaith 'da fe i'w wneud!Ta waeth, wythnos orlawn sydd wedi mynd heibio (fe fydd raid i chi faddau imi - dwi'n gwybod taw dydd Mawrth yw hi, ond mae Wythnos Sain Ffagan yn wahanol iawn. Ddewch chi ddim o hyd iddi ar gloc na chalendr...) - ac mae'n syndod cymaint yn rhagor o ymwelwyr sydd wedi dod atom ni yn yr wythnos heulog ddiwethaf. O ystyried y cyfarch, sgwrsio, malu awyr, ateb cwestiynau a dwrdio dwi'n ei wneud bob dydd, mae'r Eglwys - er ei bod hi'n wag o gynulleidfa - yn dod, yn raddol bach, yn le swnllyd iawn. David Thorpe Senior Digital Developer Contact David Thorpe Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.