Archif Sain Amgueddfa Werin Cymru
28 August 2015
,Cyflwyniad
Croeso i flog Archif Sain Amgueddfa Werin Cymru. Wedi ugain mlynedd o weithio yn yr archif ac o bori trwy’r casgliadau mae’r amser wedi dod i mi blymio i ddyfnderoedd y cyfryngau torfol.
Brawychus (efallai yn fwy felly i’r gynulleidfa nac i mi)! Felly a’m calon yn curo, a’m pengliniau yn siglo dyma fynd ati i ysgrifennu (a chadw’r bys yn hofran dros y botwm “Publish” am wythnos neu ddwy nes magu hyder) gyda’r gobaith o rannu rhai o berlau amhrisiadwy yr Archif Sain gyda Chymru a’r byd.
Dechrau Casglu
Dechreuodd yr Amgueddfa gasglu hanes llafar yn y 50au hwyr ac erbyn hyn mae bron i 12,000 o recordiadau yn ein casgliad. Ers 1958 mae staff yr Amgueddfa wedi crwydro dros fryn a dôl, dros bont a thraffordd (ac wedi mynd yn sownd mewn ambell i gae) yn recordio trigolion Cymru yn trafod eu bywydau pob dydd, eu gwaith a’u diddordebau.
Pynciau
Ymysg y pynciau a drafodir ceir sôn am amaethyddiaeth, crefftau a geirfâu crefft, gwaith tŷ, bwydydd traddodiadol, meddyginiaethau gwerin, chwaraeon, storïau gwerin, canu gwerin, arferion tymhorol, arferion marw a chladdu a charu a phriodi, diwydiannau, tafodieithoedd y Gymraeg a diddordebau hamdden.
Os hoffech wybod sut i olchi praidd o ddefaid neu lanhau sêt tŷ bach bren nes ei bod yn disgleirio, os ydych yn ysu am baratoi penglog ceffyl er mwyn creu Mari Lwyd neu wella gwlithen ar y llygad trwy ddefnyddio malwoden a draenen wen, mae’r manylion oll ar gadw yn ein harchif.
Mae gennym atgofion coliers am geffylau ofergoelus yn y pyllau glo yn dwyn eu baco a’u diod o’u pocedi ac atgofion gwragedd am bobi teisen gwaed gwyddau a pharatoi ffagots a brôn. Mae gennym gasgliad eang o ganeuon gwerin a cherddoriaeth, o blant yn canu caneuon sgipio i recordiadau o gynulleidfaoedd yn canu pwnc.
Siaradwyr
Recordiwyd dros 5 mil o siaradwyr dros y blynyddoedd o Gaergybi i Gasnewydd ac o Dyddewi i Dreffynnon gan ddiogelu gwybodaeth heb ei hail ar gyfer y dyfodol.
I’r ystadegwyr yn eich plith ceir 798 siaradwr â’r cyfenw Jones yn yr Archif, 415 Williams, 375 Davies, 297 Evans, 246 Thomas a 224 Roberts. Yr enw cyntaf mwyaf poblogaidd ymysg y dynion yw John (272 siaradwr) ac ymysg y merched ceir 144 Mary a 138 Margaret. Ganwyd ein siaradwr hynaf yn 1841 a ganwyd 6 o’n siaradwyr ar ddiwrnod Nadolig.
Gobeithio bod y blog cyntaf hwn wedi ysgogi eich dychymyg ac wedi codi archwaeth am ragor.
Hwyl am y tro
Comments - (3)
Annwyl Lowri
Evan Jones o ardal Llandysul yw’r gŵr a aned yn 1841. Fe’i recordiwyd ym mis Hydref 1958 pan yn 117 mlwydd oed gan Vincent H. Phillips ar y peiriant EMI TR-51.
Ymysg y pynciau a drafodir ar y recordiad mae Evan yn sôn am ei waith fel masiwn, am ddifyrion y gaeaf ar fferm, am weithio ffon a phethau pren, ffeiriau Capel Cynon a Chapel Llandysul, cysgu allan ar y dowlad, bwydydd y cyfnod ac arferion y bechgyn lleol wrth fynd allan i garu.
Er mai Evan yw ein siaradwr hynaf mae hefyd yn yr archif 5 siaradwr a anwyd yn y 1850au a 42 siaradwr a anwyd yn y 1860au.