Astudio Cymunedau Cymru - Cynhadledd er cof am Trefor M. Owen Elen Phillips, 12 October 2015 Ar 21 o Dachwedd, rydym yn cynnal cynhadledd undydd yma yn Sain Ffagan er cof am y diweddar Trefor M. Owen. Cynhelir y gynhadledd ar y cyd â Chymdeithas Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Cymru: Adran Ethnoleg ac Astudiaethau Gwerin.Bu Trefor Owen yn Guradur yr Amgueddfa Werin o 1971 tan ei ymddeoliad yn 1987. Roedd yn awdurdod cydnabyddedig ar arferion gwerin Cymru, ac fe ystyrir ei gyfrol Welsh Folk Customs yn un o astudiaethau pwysicaf y maes. Fel ei ragflaenydd, Iorwerth C. Peate, astudiodd gyfuniad o ddaeryddiaeth ac anthropoleg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Un arall o raddedigion yr ysgol ddeallusol hon oedd Alwyn D. Rees. Mae eleni yn nodi 65 mlynedd ers cyhoeddi ei gyfrol arloesol Life in a Welsh Countryside – arolwg gymdeithasegol o bentref Llanfihangel yng Ngwynfa.Dyma ragflas o raglen y gynhadledd:10:30 – 11:30 Yr Athro Rhys Jones: Astudio cymunedau Cymreig mewn oes ôl-dirogaethol11:30 – 12:30 Yr Athro M. Wynn Thomas: Cofio Alwyn D. Rees2:15 – 3:00 Tecwyn Vaughan Jones: 'Prin ddau lle’r oedd gynnau gant’: Hanes Trefor M. Owen3:15 – 4:15 Dr Eurwyn Wiliam: Trefor M. Owen: Curadur ac YsgolhaigMae croeso cynnes i bawb fynychu’r gynhadledd yn rhad ac am ddim. Bydd cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gael hefyd. I gofrestru neu am ragor o fanylion, cysylltwch â fi drwy ebost os gwelwch yn dda: elen.phillips@amgueddfacymru.ac.uk