Glaw at y Croen, Barrug ar yr Asgwrn Meinwen Ruddock-Jones, 21 November 2015 Mae tymor y sgarff a’r esgidiau glaw, yr het a’r hances boced, yn agosáu. Er bod yn ofalus wrth wisgo’n glyd a chynnes mae bron yn anochel y byddwn yn dioddef rywbryd yn ystod y misoedd nesaf o un neu ragor o anhwylderau’r tymor. Meddyginiaethau GwerinErbyn hyn, mae’n ddigon hawdd dod o hyd i foddion i esmwytho llawer salwch, ond cyn ymddangosiad y fferyllfa ar y stryd fawr, byddai pobl gyffredin Cymru yn troi at feddyginiaethau gwerin i wella mân afiechydon ac anafiadau. Casgliad yr Archif SainYn Archif Sain Amgueddfa Werin Cymru ceir casgliad hynod o ddiddorol o recordiadau yn ymwneud â meddyginiaethau traddodiadol, rhai â sail wyddonol a rhai eraill braidd yn anoddach i’w llyncu! Felly, os nad ydych am fentro allan trwy’r gwynt a’r glaw i wario arian ar becyn o dabledi neu botel o rhyw gymysgedd gostus, dyma rai syniadau am sut i ddefnyddio eitemau cyffredin o’r cwpwrdd bwyd (ac un hylif corfforol!) i gadw’n iach tan y gwanwyn.I Wella AnnwydRhowch beint o gwrw casgen ar y tân. Rhowch bedair llond llwy fwrdd o siwgr brown a dwy llond llwy de o sunsur ynddo. Gadewch iddo ferwi a’i yfed cyn gynted â phosibl a mynd yn syth i’r gwely. Os nad oes cwrw yn y tŷ dylid yfed llaeth enwyn ac ychydig o driog ynddo neu gymysgedd o fêl, menyn a finegr.I Wella Gwddf TostRhowch hosan wlân a wisgwyd am y troed trwy’r dydd am y gwddf a’i gadw yno trwy’r nos. Cofiwch roi troed yr hosan (y darn mwyaf budr) yn agos i’r llwnc er mwyn “dal y chwys”. Gellir hefyd roi saim gŵydd neu sleisen neu ddwy o gig moch yn yr hosan os oes peth ar gael.I Wella Clust DostRhowch winwnsyn yn y ffwrn i gynhesu ac yna rhoi canol y winwnsyn yn y glust gan ofalu bod y darn yn ddigon mawr i’w dynnu allan eto. Os nad oes winwnsyn gennych gellir rhoi peth olew yr olewydd wedi ei gynhesu ar wadin yn y glust, neu os nad oes olew yn y tŷ, gellir defnyddio eich dŵr eich hun.I Wella Llosg EiraDylid chwipio’r llosg gyda chelyn nes bod y croen yn gwaedu. Os nad yw hyn yn apelio, dylid mynd allan i gerdded yn yr eira yn droednoeth neu dorri winwnsyn yn ei hanner, rhoi peth halen ar y toriad ac yna ei rwbio ar y croen sydd wedi ei effeithio.Wel, dyna ni. Digon o feddyginiaethau i’ch cadw yn hapus ac yn iach dros y misoedd i ddod!Ac i gloi, gair o gyngor i’r merched. Dyma bennill a gofnodwyd oddi ar lafar yn Llanfachreth, Dolgellau, yn 1977: Pan dry’r hen gath ddu ei thîn ar y tân, Tynn allan dy bais dew, mae’n rhy oer i bethau mân. Comments - (1) Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience. Bethan Aur 24 November 2015, 09:23 Ie wir, cyngor da?! Dim rhyfedd ein bod yn dweud 'Iechyd da!' wrth yfed gwydraid neu 2 yng Nghymru!