Blog Homepage

Ebrill 11, 2007

Sara Huws, 11 April 2007

'Dych chi'n ymuno â fi heddiw ar chwa fach dawel - cyfle, o'r diwedd, i wneud 'chydig o ymchwil ac i ddechrau gwaith ar ddigideiddio (tocyn iaith i fi plis ...) llawer o'r wybodaeth sydd gennym am Eglwys Teilo Sant.

Dwi'n gobeithio y bydd hynny'n gallu cyflenwi dipyn ar y wybodaeth fydd ar gael i ymwelwyr wedi'r agoriad - rydym ni'n colli ein gofod arddangos (collwyd sawl deigryn dros ddifodiant y 'Ddehongl-fan', neu'r 'Chalet Gwybodaeth', credwch fi!) ac yn gorfod meddwl am ffyrdd amgenach o ddifyrru'r ymwelydd. Mae llawer o'r wybodaeth 'dyn ni'n ei gasglu, fodd bynnag, ar gof aelodau o staff yr amgueddfa, ambell i ysgolhaig, criw y Bont (a Hendy, Gorseinon ac ati!). Rhaid i fi ymuno, felly, â rhaglen hyfforddi hanes llafar yr amgueddfa.

Fe fydd pobl yn sôn yn ffeind iawn am gen-garafan-hel-straeon Sain Ffagan, oedd yn arfer teithio hyd a lled y wlad yn recordio coelion gwerin, hanes lleol a thafodieithau. Mae'n technegau ni wedi newid dipyn ers hynny, a mae'r garafan wedi mynd i, wel, i le bynnag y ma carafannau'n mynd ar ôl darfod: "the great steddfod in the sky" ella.

Ta waeth - mae'r casgliad yn enfawr, yn eang ei sgôp a bron wastad yn ddifyr. Braf oedd darganfod llais fy Nain, fu farw yn ystod fy mhlentyndod cynnar, ar dâp yn yr archif ac yn trafod arferion Gwrachod Llanddona yn serchus. Dwi'n gobeithio y gallwn ni gael hanesion yr Eglwys ar dâp, a'u rhoi ar wefan yr Amgueddfa'n fuan.

Gan roi'r 'ymchwil' i'r naill ochr am eiliad, rhaid i fi gyfadde fy mod i wedi cuddio yn y swyddfa heddiw - weithie ma'r diwrnod yn cael ei amlyncu gan ebyst a chyfarfodydd: mae angen 'diwrnod hanes' arnai bob ryw dipyn. Dwi'n ail-adrodd yr un ffeithiau ar lafar mor aml yn fy swydd, rhaid gwneud yn hollol si?r, weithiau, eu bod nhw dal yn wir! Rheswm gwell fyth cael diwrnod tawel heddiw: roedd gweithio dros benwythnos y Pasg yn yr Eglwys yn brysur eithriadol. Fe welsom ni filoedd o ymwelwyr bob dydd: cofion cynnes at unryw rai o'r staff blaen ty sydd yn dal i orwedd lawr mewn stafell dywyll yn eu sgil. I'r rhai ohonoch welais i - gobeithio i chi fwynhau. I'r rhai na ddaeth i'n gweld ni: mae gynnoch chi tan 16 o Ebrill i ddod i beintio ffenestr liw gyda ni!

Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.