Noson Bluo / Noson Blufio
6 December 2019
,Noson Bluo / Noson Bufio
Mae cyfoeth o draddodiadau yn gysylltiedig â’r Nadolig yng Nghymru; rhai a erys yn boblogaidd hyd heddiw, a rhai sydd wedi mynd yn brinach gydag amser.
Roedd y Noson Bluo (neu "blufio") yn achlysur cymdeithasol pwysig iawn mewn llawer ardal cyn y Nadolig yn y gorffennol. Rhyw wythnos cyn y dathlu, byddai’r gymuned yn ymuno i bluo ac i baratoi’r gwyddau a’r twrcwns a fu’n tewhau dros yr Hydref i’w gwerthu cyn y diwrnod mawr. Byddai rhai yn dechrau ben bore ac yn dod â’r gwaith i ben erbyn yr hwyr tra byddai eraill yn cymryd mantais o dawelwch yr oriau tywyll ac yn bwrw ati i bluo drwy’r nos a thacluso popeth yn oriau man y bore cyn dechrau ar dasgau’r diwrnod i ddod.
Roedd yr achlysur yn gyfle i deuluoedd ac i ffrindiau dreulio amser gyda’i gilydd. Er bod y gwaith yn galed, roedd digon o sbort a sbri i’w gael i’r criw o amgylch y tân yn y gegin, neu o amgylch y gwresogydd mewn sied y tu allan, wrth sgwrsio, dweud jôcs, adrodd straeon, chwarae gemau llafar a chanu ambell i gân. Dyma ychydig yn rhagor am y digwyddiad arbennig hwn gan ddau o siaradwyr yr Archif Sain:
Pluo yn Sir Drefaldwyn
Ganwyd Catherine Sydney Roberts yn Y Gardden, Llanerfyl, yn 1900. Roedd yn un o 14 o blant. Bu’n byw yn ardal Llanerfyl erioed. Roedd yn wraig hynod ddiwylliedig ac fe’i holwyd gan Minwel Tibbott yn 1972 am fwydydd ar fferm fechan yn ystod cyfnod troad yr 20fed ganrif:
“Noson bluo, oedd hi’n noson fawr iawn. Pluo gwydda te. Fyddan ni wrthi drwy’r nos, dros nos oeddan ni’n neud. Mi fydda na gymdeithas neilltuol a mi fyddan ni’n mynd er mwyn cael y gymdeithas ‘ddoch chi, te. Yn ista ar y meincia, odd y dynion i gyd, a rownd bowt, a dwy lantarn neu dair yn hongian o’r llofft. O, roedd hi’n gynnes reit yna achos oedd na gymaint o fobol a’r lanteri ‘ma, oen nhw’n cynhesu chi. Ac erbyn y bore oeddan ni wedi gorffen y cwbwl a gallu glanhau fyny. Doedd neb yn gwbod fod neb wedi bod yn pluo noson gynt bron te. Hwyl anfarwol, adrodd rhyw hen benillion a … Hwyl anfarwol, noson pluo, ynte.”
Plufio yn Sir Benfro
Ganwyd Clifford Thomas yn 1905 mewn tyddyn bach o’r enw Bryn y Banc ym mhentref Mesur-y-Dorth, ger Croes-goch, Sir Benfro. Aeth i’r ysgol yng Nghroes-goch i ddechrau ac yna i Ysgol Sir Tyddewi am flwyddyn. Roedd yn sgwrsiwr heb ei ail ac fe’i holwyd gan Delyth James yn 1972 am arferion y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Dyma rai o’i atgofion yntau am y Noson Blufio:
“Odd plufio yn dod ryw wythnos cyn Nadolig. Gwydde a chwïed a twrcis. Casglu wedyn, o, ryw ddwsin o fenywod i blufio o’r pentrefi a chwedyn, yng ngwaith i odd lladd y gwydde a’r twrcis a’u cario nhw iddyn nhw fel na bod nhw’n gorffod dod allan o’r pluf. Odd stafell arbennig mâs, a yn yr ystafell honno on nhw’n plufio. On ni’n gorffod gofalu bod heaters yndi’r noson cyn hynny, oil heaters fel bod y lle wedi’i dwymo ar eu cyfer nhw, a lampie pryd hynny, lantarne, oil lamps, i oleuo iddyn nhw oherwydd ch’mod, tua’r Nadolig yna ma’r tywydd yn dywyll iawn. Ma’r dydd yn dywyll. Dechre tua wyth i hanner awr wedi wyth, hyd wedd hi mlân bump o’r gloch, pump, chweech o’r gloch. Gorffen wedyn. Dod i ben â’r cyfan erbyn hynny. A yn y blynydde cynta, odd na glanhau giblets ymlân, ar ôl hynny wedyn. Wedi iddyn nhw ddod fewn a châl ‘u te, on nhw’n dechre ar y busnes hwn. Pryd hynny on nhw’n câl ‘u gwerthu ar wahân i’r gwydde. Swllt y pâr, swllt y set: pen, dwy droed, afu a’r galon a’r lasog.”