Blog Homepage

Hygyrchedd 2.0

Chris Owen, 15 April 2007

Rydyn wedi bod mor brysyr gyda'r gynhadledd mae'n anodd ffeindio amser i ysgrifennu ein blog. Rydyn wedi cymryd llawer o'r gynhadledd, fallai un o'r gwersi gorau oedd i ysgrifennu ein mynediadau ystod diwedd y sesiynnau fel ein ffrind Nate o Walker Art Center.

Ges i'r wers hon tra yn sesiwn Accessibility 2.0 gan Brian Kelly (UKOLN) a Prof. Stephen Brown (Prifysgol De Montfort). Roedden yn edrych ar pa mor effeithiol mae canllawiau yr WAI (Web Accessibility Initiative). Mae e werth edrych ar fel allen cael i addasu gan crewyd y canllawiau yma yn 1999. Ac er bod set newydd o ganllawiau yn cael eu creu, dyw llawer ddim yn credu bod rhain yn ateb rhai o'r problemau sy'n ein gwynebu.

Roedd e'n diddorol eistedd gyda rhai oedd yn gweithio i archifau a llyfrgelloedd Canada. Mae nhw'n gwynebu rhau o'r un problemau a ni gyda dwyieithrwydd. Hyd yn oed yn waeth - mae rhaid gwneud peth stwff yn Métis ac Inuit! Mae'r archifau a'r llyfrgelloedd yn Canada yn cael eu noddi gan y llywodraeth, felly mae ganddynt canllawiau strict iawn.

Mae'n bwysig i ni edrych ar ein safwe mewn ffordd sy'n ateb canllawiau hygyrchu, ond hefyd i weld os mae ein cynnwys yn galluogi pobl i ddysgu mewn ffyrdd gwahanol i'r cyfrifiadur - fel roedd Brian yn sôn am - blended learning. Er bod dal lle am yr WAI, mae'n bwysig edrych ar dynesiad mwy holistaidd.

Chris Owen

Digital Development Manager
Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.