Straeon Covid: “Mae fy nheimladau'n dod fel tonnau”
14 June 2020
,Cyfraniad Leri i broject Casglu Covid: Cymru 2020.
Rydw i'n 49 ac fe ges i'r feirws… roedd popeth yn brifo. Dannedd, llygaid ac anadlu'n galed. Es i ddim i'r ysbyty, diolch byth, ond arhosodd y problemau anadlu a theimlo'n wan ac yn racs gyda fi am 8 wythnos. Rwy'n cyfri fy hunan yn ffodus iawn.
Ar hyn o bryd mae dydd Llun i ddydd Gwener yn gyfuniad reit heriol o sicrhau bod fy mhlant yn dysgu adref. Mae'r ddau â gwaith i gwbwlhau mewn cyfuniad ac ymarfer eu cyrff, cael awyr iach ac ar adeg dysgu ar lein gyda'i athrawes. Rhaid darparu digonedd o fwyd a byrbrydiau a glanhau'r ty hefyd. Rydw i'n paratoi gwaith, marcio gwaith, gwneud galwadau ffôn i blant a rhieni yn fy swydd fel athrawes Blwyddyn 1. Rydw i hefyd yn dysgu mewn ysgol Hwb – dysgu plant gweithwyr allweddol. Mae fy ngwr yn gweithio o adref ac yn trefnu offer i'r NHS – gwaith holl bwysig yn ystod y cyfnod yma. Mae'r penwythnosau'n adeg i ymlacio –allan am gyfnodau hirach, gwylio ffilmiau, creu celfweithiau, cloncan a chwarae.
Mae'r ddau [blentyn] yn gweld eisiau rhyddid. Rhyddid i fynd allan cyn hired â hoffant a thu hwnt i'w hardal leol. Maent yn colli ffrindiau a diffyg chymdeithasu'n anodd. Mae dysgu adre'n newid o ddydd i ddydd – ambell dro'n awyddus i ddysgu ac ar adegau'n emosiynol a rhwystredig. Ar y cyfan, maent yn agored i drafod am eu teimladau ac yn mwynhau cwtsh cynnes!
Mae fy nheimladau'n dod fel tonnau. Gallai fod yn ddiolchgar, derbyn y sefyllfa a trio gweld positif yn y sefyllfa ar y mwyaf, ond reit ddagreuol dros pethau bach adeg eraill… Y cysur mwyaf yw gwbod bod fy nheulu'n ddiogel, fy rhieni, fy chwaer a'i theulu a'r teulu estynedig. Rydyn ni'n ddiolchgar ac yn meddwl am rhieni sy'n diodde.