Gwau Geiriau (Welsh only)

Pecyn adnoddau i diwtoriaid Cymraeg i'w ddefnyddio yn Amgueddfa Wlân Cymru.

Mae Gwau Geiriau'n adnodd rhyngweithiol sy’n cynnig cyfle i ddysgwyr ddysgu, datblygu a gloywi iaith drwy fanteisio ar holl adnoddau’r Amgueddfa Wlân, Dre-fach Felindre a chyfle i diwtoriaid gael cymhorthion astudio amrywiol.

Mae’r Amgueddfa yn dathlu diwydiant gwlân Cymru fel rhan o’n hetifeddiaeth genedlaethol gyda chymorth crefftwyr a staff gwybodus sy’n siarad Cymraeg, yn ogystal ag arddangosfeydd yn cynnwys gwrthrychau, lluniau, ffilmiau ac adnoddau sain.

Mae'r pecyn yn cynnwys:

  • Rhagarweiniad i diwtoriaid
  • Taflenni gwerthuso i diwtoriaid a myfyrwyr
  • Gweithgareddau Mynediad
  • Gweithgareddau Sylfaen
  • Gweithgareddau Canolradd
  • Gweithgareddau Uwch

Dewch â’ch dysgwyr i fwynhau profiad gwirioneddol Gymraeg wrth ddysgu. Am fwy o wybodaeth neu i drefnu ymweliad ffoniwch (029) 2057 3070.

© Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2009.
Amgueddfa Genedlaethol Cymru sydd â’r hawlfraint i’r deunyddiau sydd ar y CD, DVD â'r we-fan, ac eithrio’r ddwy gân Brethyn Cartref (traddodiadol, trefn. Mynediad am Ddim) a Merch o’r Ffatri Wlân (Meic Stevens); Sain (Recordiau) Cyf. biau’r hawlfraint ar y recordiadau, a Chyhoeddiadau Sain biau hawlfraint y caneuon.