The Welsh dialect of Ffynnongroyw, East Clwyd
North East Wales Welsh
Listen to Ness Davies from Ffynnongroyw talking in a East Clwyd dialect of Welsh.
The recording
An example of the Welsh dialect of Ffynnongroyw, North East Wales by Ness Davies.
‘Na’ i ddeu’ ‘thych chi be’ on ni yr adag yna yndê, Ffynnongroyw. Wel Ffynnongroyw ydi... dach chi’n gwbod be’ ma... mae’n feddwl, yntê, bo’ gynnon ni ffynnon yma. A mi odd ‘i’n groyw. Ag odd y ffynnon... dyma Well Lane, man nw’n galw... dach chi’n gweld? /Ydw./ Wel yn ganol y pentra, i lawr yn Well Lane ‘ma, mi o ‘na ffynnon. Mae ‘i yna rwan, ond bo’ nw ‘di châ hi fyny. A dwi ‘di bod yn deu’th y cownsils ‘ma, ond man nw yn deud bod nw’n mynd i ail ‘i hagor ‘i. A ma’ ‘i’n ffynnon sy ‘di bod yn rhedag ar hyd yr oesoedd. A dena odd yn job mwya ni odd cario dŵr. Ag on i’n cario i ‘nghartre fi, yndoedd, ag on i’n cario i ddau ne dri o gartrefi erill, ag on nw’n rhoid ceniog. On i’n lwcus yn câl ceniog.
Ond dwi’n cofio on i’n canu... on i’n cario glo i rw hen ddynas yn ganol y pentra ‘ma, ag odd ‘i yn rhoid ceniog imi. On i’n mynd i ‘nôl bwceded iddi bob yn ail dwrnod. Odd un bwcied yn gneud iddi am... A dwi’n cofio un dwrnod
iddi ddeu’ ‘tha i bod... on’ chwrs, on i’n galw ‘i’n anti, on’ Mam.. rw dipyn o ffrynd odd ‘i i Mam. Ag odd ‘i’n deud bod Anti ddim gyn newid y bora Sadwn ‘na. A fasa ‘i’n rhoid rhwbath imi i gofio amdani. Ag ‘aru rhoid celiog imi. ‘Na i ddangos o ichi ar ôl inni ddarfod. Mae o yna. Ag ‘aru roid — giâr odd ‘i ar nyth botyn. A ma raid bod... O, ma raid bod hi’n hen. Ond dwi’n dal i fod gynni yma. Dw’m yn meddwl bod hi’n... na, ma ‘i yn y cwpwr’ arall. Ma ‘i yn...fan yna.Odd gynnach chi gêms i chware yn blant? Yn wahanol i be’ sgynnan nw heddiw?
Nag oedd. Dwi’m yn meddwl. Nag oedd. Odd pethe ddim felly. Odd... a dwi’m yn meddwl bod yr... y... athrawon gyn ddim llawar o awydd hefo
gêms i ni. Beth bynnag on ni’n bigo on ni’n bigo fo fyny’n hunin, yndoedd? On ni gyn tîm bach yn yr ysgol ‘ma —football. On’ ‘na’ i ddeu’
‘thych chi, o’ gynnan ni ar’ yn yr ysgol ‘ma, i lawr y ffor’ bach ‘ma rwan. Ag... y... o’ ‘na gwmpas ugian ohonan ni. Ma’ ‘na’ i lun ohonyn nw. A
deud y gwir yntê, ôs ‘na ‘blaw rw... dwy’n barnu, on’ ôn i’n sbia arno fo
‘chydig wsnosa ‘nôl, ddangos o i rŵun. A dwi’n barnu a ôs ‘na ‘blaw rw bedwar ohonan ni’n fyw...
‘Na’ i ddeu’ ‘thach chi be’ odd ar fynd pen on i’n blen..., pen on i’n hogyn. Y coits. On nw’n chware coits. A dwi’n mynd yn d’ôl ‘wan i’r dyddia y
streic cynta... y... glowyr ‘ndê. Nineteen twenty six. A dwy’n cofio on nw’n cal... y... competitions, chimod. Oedd. Ag on nw’n chwara y coits ‘ma... rhan fwya... Ma ‘na dafarn yn ben y pentra ‘ma rwan, y Crown, ag odd y dafarn yna gyn cae. Ag on nw’n chwara yn y cae — y Crown ‘ma. Ag odd y Miners’ Welfare gyn cae yn pen yma o’r pentra. Ag on nw’n chwara competitions. Dwi’m yn gwbo’ be’ odd y wobr yndê, dwi’m yn gwbod. Ma’n shŵr rw sŵllt ne ddau odd i’r enillwr yndê. Ond odd y gofaint, chi’n gweld, yn gneud y coits ‘ma iddyn nw. Darna o huarn crwn oddan nw’n tê.