@DyddiadurKate - Pobi Bara Ceirch
6 July 2015
,Dros y chwe mis diwethaf, ceir sawl cyfeiriad gan @DyddiadurKate am bobi bara ceirch:
23 Chwefror: “Pobi bara ceirch y boreu.”
23 Mawrth: “Bobi bara ceirch y boreu.”
26 Mai: ”Pobi bara ceirch y boreu.”
7 Mehefin: “Pobi bara ceirch yn y boreu.”
Ddoe, bu hi’n “Pobi bara ceirch dros y cynheuaf.”
Mae gwneud bara ceirch yn hen grefft sy’n perthyn i’r Alban, Lloegr, Cymru ac Iwerddon. Er bod ‘na fân amrywiaethau rhwng y gwledydd, a hyd yn oed rhwng siroedd ac ardaloedd o fewn yr un wlad, yr un ydi’r grefft yn ei hanfod – creu toes allan o gymysgedd hynod o syml o flawd ceirch a dŵr, ei lunio’n dorthau, a’u crasu. Y gamp oedd creu torth denau, gron gyda’i hymyl mor llyfn â phlât. Eto i gyd, ni chyfrai Kate hyn yn grefft:
“oedde ni’m yn gyfri o’n grefft nag o’dd e nachos o’e ni ‘di ca’l y magu iddo fo doedden. Mi fydde Mam yn gneud y chi, ie, o Nain yn gneud, dene o’n i weld erioed ‘n te.”
Yn ôl y dystiolaeth a gasglwyd, mae’n debyg fod ‘na ddau ddull gwahanol o lunio bara ceirch yng Nghymru – un oedd dal yn bodoli yn sir Feirionnydd yng nghyfnod gwaith maes Minwel Tibbott (ac oedd yn nodweddiadol o ogledd Cymru), a’r llall oedd yn perthyn i siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi.
Dyma rysáit o ardal Y Bala a gofnodwyd gan Minwel yn ei chasgliad o ryseitiau traddodiadol, Amser Bwyd:
llond cwpan wy o ddŵr claear
hanner llond llwy de o doddion cig moch
tua thri llond dwrn o flawd ceirch
Toddi’r saim yn y dŵr a gollwng y blawd ceirch iddo yn raddol gan dylino’r cymysgedd yn does meddal.
Taenu ychydig o flawd ceirch ar fwrdd pren, rhoi’r toes arno a’i foldio rhwng y ddwy law i ffurf ‘cocyn’ bychan. Yna ei ledu â chledr y llaw a’i ffurfio’n dorth gron o dua maint soser go fawr.
Yn awr defnyddier rholbren i yrru’r dorth, ac wrth ei gyrru ei lletroi bob hyn a hyn, sef rhoi rhyw chwarter tro iddi ar y bwrdd, gan wasgu ymyl y dorth â blaen bysedd y llaw dde i’w rhwystro rhag cracio.
Rhoi’r dorth derfynol (o’r un maint â phlât cinio go fawr) o’r neilltu i galedu rhyw gymaint cyn ei chrasu.
Crasu’r dorth ar radell weddol boeth a’i throi i’w chrasu’n gyson ar y ddwy ochr. Yna rhoi’r dorth i sychu a chaledu mewn lle cynnes.
Paratoid ail fath o fara ceirch yn siroedd y Gogledd, sef bara caled. 'Doedd y rhain ddim yn cynnwys saim, dim ond dŵr a blawd ceirch. Prif reswm gwneud y bara ceirch yma ym Meirionnydd oedd i baratoi siot. Yng ngeiriau Kate: “Ca’l y bara a’i falu o’n te ac wedyn ca’l y malwr ‘te – peth pwrpasol o’ hwnnw eto’n te yn Tŷ Hen. Rhywbeth fel rholbren ond bo ne ricie yn ‘o fo er mwyn i’r bara dorri’n fân wychi’n te … A roi o yn y fywlen a llaeth enwyn am i ben o a’i gymysgu o. Ma’ rhai’n licio fo ‘di adel o am dipyn ‘te a lleill yn licio fo’n syth.” Byddent yn ei fwyta “o flaen ‘i te bob amser bron … ‘im yn geua w’rach ‘n te ‘chos o rai chi dw’mo llaeth enwyn yn gûa’n bydde.”
Yn ystod misoedd yr haf arferid ei gario allan i'r caeau adeg y cynhaeaf fel byrbryd rhwng prydau i'r gweithwyr, ac roedd plant yn hoffo'i gario i'r ysgol ar gyfer eu cinio yn yr haf. Yn ôl tystiolaeth y gwragedd a holwyd, ‘doedd dim yn well i dorri syched ar ôl treulio oriau yn y cae gwair. Atega Kate, “pan fydde c’nûa [cynhaeaf] yn ‘i anterth o ni’n mynd â ryw tamed chwech i’dd n’w’n ‘te. ‘Dyn welish i gal siot ne fynd ag uwd w’rach ‘n ‘te.”
Bu’r grefft o yrru bara ceirch bara tan hanner cyntaf yr 1900au. Ond erbyn y cyfnod hwn, moethyn i’w fwyta yn achlysurol oedd o, yn hytrach na bara bob dydd. Y dull mwya cyffredin o fwyta’r bara ceirch hwn yn siroedd gogledd Cymru oedd rhoi darn o dorth geirch unai rhwng dwy frechdan wen neu wyneb yn wyneb ar un frechdan wen. Amrywiai’r enwau a roddid ar y rhain, e.e., ‘brechdan gaerog,’ ‘brechdan linsi,’ brechdan fetal,’ ‘piogen’ a ‘pioden’. I gloi gyda geiriau Kate unwaith eto: “Fydde ar y bwr’ bob pryd yn yr amser o’n i’n bodoli amser honno ‘te a’u bwyta o fewn brechdan … bechdan geurog … ‘s’licio cal un heno …”