Blog Homepage

@DyddiadurKate: Nadolig, pwy a wyr?

Mared McAleavey, 12 December 2015

Wel dyna ni, dim ond cwpl o ddyddiau sy’n weddill nes bod @DyddiadurKate 1915 yn dirwyn i ben. Ceir ei chofnod olaf ar y 15fed o Ragfyr, ac mae’n rhaid i mi gyfaddef, â hithau ‘di bod mor selog yn ysgrifennu, ro’n i’n siomedig nad oedd hi wedi rhoi pen ar bapur dros gyfnod y Nadolig. Ro’n i wedi edrych ymlaen cael darllen am baratoadau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ac wedi bod yn dyfalu p’un â’i gŵydd yntau asen o gig eidion fyddai’r wledd? Pwy fyddai’n galw heibio? A fyddai’r teulu’n mynychu gwasanaeth y Plygain? A fyddent yn addurno Tŷ Hen? Ac a fyddai Kate yn “gwneud cyfleth” neu’n “mynd i noson gyflaith”? Yn anffodus, nid oedd i fod, ond rhaid diolch iddi am y gwledd a roddodd i ni dros y flwyddyn.

Cyd-ddigwyddiad llwyr oedd i mi dderbyn copi mis Hydref 2015, o bapur bro Bala a’r cylch, Pethe Penllyn ac ynddo erthygl, ‘Noson Gyfleth Coed y Bedo, Cefnddwysarn’. Roedd cyfeiriad ynddo at deulu Yr Hendre, sef cartref genedigol mam Kate, yn ymuno yn yr hwyl. Felly, dyma fanteisio ar y cyfle i sôn am arfer hwn, oedd yn draddodiadol mewn rhannau o ogledd Cymru dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Byddai teuluoedd yr ardal yn cymryd eu tro i gynnal nosweithiau o’r fath, gan wahodd eu ffrindiau i'w cartrefi fin nos. Wedi gwledda, byddai pawb yn mwynhau rhyw fath o ‘noson lawen’, cyfle i sgwrsio, chwarae gemau, adrodd straeon, canu a thynnu coes, ond canolbwynt y noson fyddai tynnu cyflaith.

Dyma rysáit o’r Archif yn Sain Ffagan a gasglwyd o ardal Pennant, Trefaldwyn:

3 phwys o siwgr llwyd, meddal

½ pwys o fenyn hallt (wedi’i feddalu)

sudd 1 lemwn

¼ peint o ddŵr berw (neu ragor os bydd y siwgr o ansawdd sych)

  • Tywallt y siwgr a’r dŵr i’r sosban. Toddi’r siwgr yn araf uwchben tân gloyw, a’i droi'n gyson â llwy bren nes iddo doddi'n llwyr (gall gymryd ryw ugain munud).
  • Tynnu’r sosban oddi ar y tân, ychwanegu’r sudd lemwn a'r ‘menyn, a'u cymysgu'n drwyadl.
  • Berwi'r cymysgedd yn weddol gyflym am ryw chwarter awr heb ei droi o gwbl.
  • I brofi os yw’n barod - gollwng llond llwy de o'r cymysgedd i gwpaned o ddŵr oer. Os bydd yn caledu ar unwaith, mae’n barod.

Dyma gychwyn yr hwyl! Rhaid oedd tywallt y cyflaith ar lechen, carreg fawr neu garreg yr aelwyd oer wedi'i hiro â ‘menyn – dwi’n gwybod o brofiad pa mor danbaid boeth yw’r gymysgedd. Byddai pawb yn iro'i dwylo ag ymenyn (er mwyn arbed llosgi eu dwylo ac i ychwanegu at y blas a’r ansawdd) ac yn cymryd darn o'r cyflaith i'w dynnu tra byddai'n gynnes. 'Roedd hon yn grefft arbennig a’r gamp oedd tynnu'r cyflaith nes ei fod yn raff melyngoch. Byddai'r dibrofiad yn edmygu camp a medrusrwydd y profiadol, tra bo methiant ac aflwyddiant y dibrofiad yn destun hwyl i bawb. Gwyddom pa mor gymdeithasol oedd cymuned @DyddiadurKate, ac mae’n hawdd ei dychmygu’n rhan o’r hwyl a’r sbri!

Diolch i bawb sydd wedi dilyn y dyddiadur yn ystod 2015. Cofiwch ddilyn hynt a helynt Kate o’r 1af o Ionawr 2016 ymlaen, wrth i ni agor cyfrif newydd i drydar cynnwys dyddiadur arall o’i heiddo, a roddwyd ganddi i Archif Sain Ffagan ym 1970. Dyddiadur 1946 yw hwn, gyda Kate bellach yn briod, yn fam ganol oed, sy’n cofnodi ei bywyd ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd, ac os ydych am roi cynnig ar wneud cyflaith – cofiwch beidio llosgi eich dwylo!

Mared McAleavey

Principal Curator: Historic Interiors
Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.