Dyddiadur Kate: Dogni dillad a make do and mend
9 March 2016
,9 Mawrth 1946: Ir Bala hefo’r bus 12.30. Prynu shuttle o nodwyddau i Es ir machine wnio.
Yn ei dyddiadur heddiw, mae Kate Rowlands yn sôn ei bod wedi prynu nodwyddau ar gyfer peiriant gwnïo ei merch, Elsie. Yn ystod y 1940au, roedd medr gyda'r nodwydd a'r peiriant gwnïo yn fantais fawr i fenywod Cymru. Dyma ddegawd o ddogni ac ailgylchu, trwsio a phwytho.
Dogni dillad (1941 - 1949)
Yn dilyn cyflwyno dogni ar fwyd yn 1940, daeth dogni dillad i rym ym Mehefin 1941. Roedd sawl rheswm tu ôl i’r penderfyniad, ond y prif nod oedd lleihau’r galw am ddeunyddiau crai ac ailgyfeirio llafur at waith rhyfel. Erbyn 1941, roedd mewnforio cynnyrch o’r cyfandir yn amhosibl. Ar ben hyn, roedd y ffatrïoedd hynny a fyddai, fel rheol, wedi cynhyrchu brethyn a gwisgoedd parod yn ceisio ymdopi â’r galw newydd am lifrai milwrol. O ganlyniad, rhoddwyd llyfr dogni dillad i bob unigolyn. I brynu dilledyn, rhaid oedd talu gyda chyfuniad o arian parod a thocynnau o’r llyfr.
Roedd pob unigolyn yn cael cwota o docynnau i’w gwario yn flynyddol, gyda phob tocyn yn gyfwerth â hyn a hyn o bwyntiau. Pe bai angen ffrog newydd ar Kate Rowlands, byddai wedi gorfod ildio un-ar-ddeg tocyn. Crys newydd i Emrys? Wyth tocyn. Pâr o ’sgidiau i Dwa? Saith tocyn. Ar ddechrau’r cynllun, roedd pob unigolyn yn derbyn 66 o bwyntiau bob blwyddyn, ond wrth i’r Rhyfel fynd yn ei flaen, bu’n rhaid gostwng y cwota. Roedd y sefyllfa ar ei waethaf rhwng 1 Medi 1945 a 30 Ebrill 1946 – dim ond 24 tocyn oedd ar gael y pryd hynny.
Make do and Mend
Yng ngwyneb y prinderau hyn, cyhoeddodd y Bwrdd Masnach lyfryn bychan o'r enw Make do and Mend er mwyn annog menywod Prydain i fod yn ddyfeisgar a chreadigol â'u dillad. I gyd-fynd â'r ymgyrch, lluniwyd cymeriad o'r enw 'Mrs Sew and Sew' i hyrwyddo'r neges mewn cylchgronau a phapurau newydd. Sefydlwyd dosbarthiadau gwnïo mewn neuaddau bentref ac ysgolion ledled y wlad i gynorthwyo menywod ar bob agwedd o fywyd yn y cartref.
Mae sawl enghraifft yng nghasgliad tecstiliau'r Amgueddfa o waith llaw'r cyfnod hwn. Un o fy ffefrynnau i yw'r gorchudd clustog a welir yma a wnaed drwy ailgylchu hen sach ac edafedd lliw.