Dyddiadur Kate: Cyfryngau cymdeithasol, hanes cymdeithasol
9 February 2015
,Mae dros fis wedi mynd heibio ers i @DyddiadurKate bostio cofnod cyntaf dyddiadur Kate Rowlands. Mi fyddwch chi wedi dysgu rhagor amdani, erbyn hyn, trwy flogiau a chyfweliadau, a thrydar yn ôl ac ymlaen ar gyfrifon fel @StFagansTextile, @archifSFarchive, @RhB1Addysg ac @sf_ystafelloedd.
Rydym ni wedi cael gor-olwg frithliw a diddorol o bob math o agweddau o hanes cyfnod y dyddiadur, sef 1915. Mae cofnodion cryno y dyddiadur wedi bod yn symbyliad i staff i archwilio eu cyd-destun, a rhannu rhagor o gasgliadau a ffynonellau, o Amgueddfa Cymru a thu hwnt. Mae ein cronfa ddata Casgliadau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn llawn pob math o wrthrychau sy'n rhoi cip ar stori fwy personol, sy'n mynd â ni i fyd y pethau bychain, fel y gall Dyddiadur Kate.
Un peth sydd wedi dod yn amlwg o gychwyn cynta'r prosiect yw pa mor werthfawr yw casgliad Papurau Newydd Cymru y Llyfrgell Genedlaethol wrth i ni geisio darganfod mwy am gofnodion cryno'r dyddiadur - yn enwedig wrth i Kate sôn am ddigwyddiadau cymdeithasol neu bynciau llosg y cyfnod, fel ei chofnod am yr 'influenza' dros y penwythnos:
Hysbyseb difyr o ran argaeledd orennau #RhB1 @DyddiadurKate Cambrian Daily Leader http://t.co/EQWagw0duL
— Mared Wyn McAleavey (@SF_Ystafelloedd) February 8, 2015
Mae cronfa'r papurau newydd yn eisampl wych o sut i gyflwyno dogfennau mawrion, manwl - mae'r chwiliad yn hawdd iawn i'w lywio, sy'n golygu ei bod hi'n hawdd iawn dod o hyd i erthygl benodol, neu i ddilyn dy drwyn gan ddarllen am dy hoff bynciau (fues i'n darllen lot am gystadleuthau gweu dros y penwythnos, mwy cyffrous yn amlwg na phencampwriaeth y chwe gwlad).
Y tu cefn i'r hanes cymdeithasol a'r trafod a'r rhannu, erbyn hyn, 'mae'r dechnoleg sy'n ei gyflwyno. O safbwynt digidol, mae DyddiadurKate wedi bod yn ffordd wych imi weithio gyda thîm i roi tro ar dargedu cynnwys uniaith-gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol. Mae hefyd wedi rhoi cyfle imi arbrofi a gwerthuso rhag-bostio (yn defnyddio tweetdeck), a phlatfform analytics mewnol twitter. Dwi'n gobeithio y bydd y teclynnau hyn yn dod yn ran o waith mwy o'n trydarwyr, fesul tipyn - ac felly o ran 'pethau bychain' fy mywyd bob dydd innau, gan mlynedd yn ddiweddarach, cofnodi data fydda i, tra'n gwylio dyddiau Kate yn pasio heibio.