@DyddiadurKate - Alcohol a Dirwest
13 February 2015
,Ar y 5ed o Chwefror, 1915, mae Dyddiadur Kate yn sôn am y Mudiad Dirwest: “Mr E. H. Evans yn darlithio yng nghyfarfod Cymdeithas Ddirwestol.”
Cymdeithas Ddirwestol
Dechreuodd Y Mudiad Dirwest yn y 19eg ganrif gyda sefydlu’r Gymdeithas Ddirwestau. Yng Nghymru, roedd Dirwest yn boblogaidd mewn cymunedau anghydffurfiol yn enwedig. Roedd y Gymdeithas Ddirwestol yn annog ymatal yn llwyr rhag yfed alcohol. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth y neges ddirwest yn bwysig a phoblogaidd unwaith eto.
Alcohol a'r Rhyfel
Ar yr 28ain o Chwefror 1915, traddododd Lloyd George araith ym Mangor a soniodd am effaith ddinistriol alcohol ar yr ymdrech ryfel. Roedd y llywodraeth yn credu bod gormodedd o alcohol a meddwdod yn cadw pobl o’u gwaith yn y ffatrïoedd. Soniodd Lloyd George am ‘the lure of the drink’ a dweud bod y ddiod gadarn yn gwneud mwy o’r difrod i Brydain na holl longau tanfor yr Almaen. Gallwch ddarllen mwy am yr araith hon ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru (yn Saesneg).
Yn Awst 1914, cyflwynodd y Llywodraeth y ‘Defence of the Realm Act’ oedd yn ceisio atgyfnerthu ymdrech y Rhyfel. Cynhwyswyd ddeddf i leihau oriau agor tafarnau yn y ddeddf i geisio lleihau defnydd alcohol ymysg pobl. Yn 1915 penderfynodd y Llywodraeth nad oedd hynny’n ddigon felly sefydlwyd y ‘Central Control Board’ (CCB) er mwyn goruchwylio arferion yfed. Yn Hydref 1915 cyflwynwyd y ‘No Treating Order’ i atal pobl rhag prynu rownd o alcohol, neu brynu diod ar gredyd.