@DyddiadurKate - Gwneud Menyn
25 March 2015
,Yn ei dyddiadur ddoe, nododd Kate ei bod wedi 'Corddi y boreu. Modryb Erwfedig yma yn nol ymenyn.'
Roedd gwaith y llaethdy yn amlwg yn rhan ganolog o’i bywyd, a hithau’n cael ei disgrifio fel “merch ffarmwr gwaith llaethdy” yng Nghyfrifiad 1911. Dwi eisoes wedi disgrifio’n fras y broses o gorddi yn Tyhen, ond beth oedd y camau nesaf er mwyn gwneud menyn? Dyma ddyfynnu Kate unwaith eto yn disgrifio’r prosesau mewn cyfweliad hanes llafar gyda Minwel Tibbott nôl ym 1970.
Wedi i’r menyn ffurfio, byddai Kate yn “i godi o wyneb y llaeth” gyda llaw a’i roi mewn noe, sef “fel bywlen bren fawr.” ‘Doedd dim yn cael ei wastraffu, ac unai byddai’r llaeth enwyn yn cael ei roi i’r anifeiliaid, neu byddai’r teulu yn “iwsho hwnnw i neud siot a phethe felly te, a gneud glasdwr [sef dŵr a llaeth enwyn] i fynd allan i’w yfed adag g’neud gwair … Fydde llawer iawn yn rhoi blaw’ ceirch hefyd, jesd i sgatro fo ar wyneb y can ‘n te wrth fynd â fo allan i’r cae gwair.”
I drin y menyn, roedd angen ei olchi’n lân mewn dŵr oer, “oedd raid chi ga’l y llaeth i gyd allan ne fysa fo’m yn cadw dim.” Wedi ei olchi, roedd rhaid cael gwared ar yr hylif. Yn y cyfweliad, mae Kate yn disgrifio'r hyn rwy’n ei adnabod fel clapiwr menyn, sef teclyn siâp madarch a ddefnyddid i weithio’r menyn yn y noe i gael y dŵr allan - “sgimer fydde ni’n galw beth o’ gynno ni yn i drin o’n te.” Byddai Kate “yn gwbod yn syth” pan fo’r menyn yn barod “fydde chi’n sprinclo halen a’no fo a’i gymysgu’ o reit dda, a wedyn i godi o a neud o’n bwysi wedyn.” Roedd ganddi “glorian i bwyso fo’n te, ‘dyn godi o, hynny o’chi’n feddwl fysa gneud pwys ‘n te a wedyn roi o mewn cwpan fenyn … ‘dyn o’dd o’n dŵad yn grwn … Roi o wedyn ar y slab carreg ‘n te, yna fydda ni’n roi’r print arno fo … Oedd pob ffarm a’i brint i hunan … Weles i ddeilen derwen, o’ hwnnw’n neis a wyddo chi mesen a’n o fo te … Welish i fuwch genno ni hefyd ryw dro … O’dda ni’n werthu o’n lleol i siop yn y pentre y rhan fwya” ac yn cyfnewid y menyn am “neges yn y siop.”