@DyddiadurKate - A oes heddwch? Eisteddfodau a'r Rhyfel Byd Cyntaf
22 May 2015
,Wythnos nesaf bydd Caerffili a’r cylch yn croesawu Eisteddfod yr Urdd a dros 15,000 o blant a phobl ifanc i’r dref i gystadlu mewn cystadlaethau megis canu, dawnsio a pherfformio. Uchafbwynt yr ŵyl i lawer fydd seremoni’r coroni a chadeirio.
Ar y penwythnos yma, ganrif yn ôl, bu Kate hefyd yn ymweld ag Eisteddfod, sef Eisteddfod Llanuwchllyn 1915.
Enillydd cadair Eisteddfod Llanuwchllyn y diwrnod hynny oedd neb llai, nag Hedd Wyn, un o brif ffigurau llenyddol Cymru.
Y gadair yma oedd y bedwaredd gadair iddo ennill mewn eisteddfod leol, a’i ffugenw oedd ‘Fleur-de-lis’, enw a ddefnyddiodd sawl tro wrth gystadlu. Dyma hefyd oedd yr eildro iddo ennill cadair Eisteddfod Llanuwchllyn. Yn yr eisteddfod gyntaf, yn ôl llafar gwlad, bu’n rhaid cadeirio Hedd Wyn yn ei absenoldeb, oherwydd iddo adael yr eisteddfod yng nghwmni un o ferched y fro, ac aros allan gyda hi.
Derbyniodd glod aruthrol yn y ddwy eisteddfod. Meddai’r beirniad ym 1913:
Well done Hedd Wyn, dos yn mlaen hyd nes cyrhaedd Cadair Genedlaethol.
A dyna be wnaeth – yn 1915 aeth ati i geisio am Gadair Genedlaethol Eisteddfod Bangor ond ni ddaeth i’r brig y tro yna. T.H Parry Williams a gipiodd y gadair a’r goron y flwyddyn hynny.
Er iddo golli ym Mangor, ddwy flynedd yn ddiweddarach, bu iddo ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917, ond yn dorcalonnus, bu farw mewn brwydr yng ngwlad Belg rhai wythnosau ynghynt. Yn ystod y ddefod, gosodwyd gorchudd du dros y Gadair.
Bu eisteddfodau yn elfen bwysig o fywydau'r Gymru yn ystod y Rhyfel. Fe roddodd gyfle i bobl ddod at ei gilydd i fwynhau ag anghofio pryderon rhyfel, pe bai hynny ond am ysbaid fechan. Mewn cyfnod o ansicrwydd, dychryn a pherygl fe fydda’r eisteddfod yn corddi ymdeimlad o ysbryd cymunedol, nid yn unig ar y ffrynt Gartref ond hefyd i filwyr hiraethus o Gymru:
The Welshmen in khaki could not let Easter go by without his feast of song, and “somewhere in England” the lads from the Principality had a Welsh Divisional Eisteddfod. Cambrian Daily Leader, 25 Ebrill 1916