Collections Online
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Advanced Search
Holiadur | questionnaire
Detailed notes in Welsh by W. Beynon Davies (Ciliau Aeron) entitled 'Diwylliant Gwerin Dyffryn Aeron a Chanolbarth Ceredigion' as a response to the 1937 questionnaire created by the National Museum on Welsh folk culture.
Questionnaire on Welsh Folk Culture, 1937 Prepared by the Department of Folk Culture, National Museum of Wales, and published in 1937. The questionnaires were sent to parishes, schools and individuals as a way of collecting information about all aspects of Welsh folk culture. The questionnaire was divided into the following subject areas: domestic life, corporate life, cultural life, crafts and industries. The museum was keen to engage with the people of Wales and the questionnaire respondents to collect objects and stories as a basis for establishing the Welsh Folk Museum in 1948.
Tudalen 19/Page 19 y stoc a gedwir ac nid yn ôl yr aceri. Tŷ bach oedd tŷ [sic] heb ddim ond gardd o dir; yna cawn le cadw buwch (1-10 acer) lle dwy fuwch (-15 acer) lle tair buwch (-20 acer) a chedwid ceffyl yn aml gyda’r rhain. Yna byddai lle 25-30 acer yn lle pâr o geffyle [sic], 40-65 acer yn lle tri cheffyl, 65-80 acer yn lle dau bâr neu 9-10 buwch o wartheg ac yn y blaen, canyd [sic] rhyw 150 acer (= 3 phâr) oedd y ffermydd mwyaf. Neu ceid lle dau was a morwyn, lle tri gwas a chyfrifid y deiliaid hefyd. Yn gyffredin, cadwai lle o 100 acer o dir cymysg ryw 10-12 o wartheg a magu 12 o loi bach, rhyw 5-7 o geffylau a 40 o ddefaid (penddu, Seisnig), heblaw buwch neu ddwy at fagu a moch i’w tewhau. Trinid [sic] rhyw 1/3 o’r tir ar lawer o’r ffermydd a hynny yn ei dro i gyd, ar wahân i rai caeau a gedwid [sic] yn gyson at ‘wair gwndwn’. Y rhod gnydau gyffredin [sic] yw:- porfa - ceirch gwanwyn - efallai’r un peth wedyn am flwyddyn arall - tatw a maip etc. pryd y rhoid dom [sic] iddo - gwenith (gaeaf [sic]) -
Tudalen 27/page 27 ceisid gwneud y cwbl pan ymwelai’r dyrnwr mawr a’r injan stêm yno yn yr hydref [sic] ac wedyn yn y gwanwyn [sic].
Wrth doi, gwneid y rhaffau o wellt neu bibrwyn – brwyn gwahanol i’r rhai cyffredin ac ni ŵn beth yw’r gair Saesneg amdanynt. Os byddai amser, rhoid gwrach [sic] ar y das yn gyntaf - rhyw hir ffagod o friw-wellt wedi rhoi rheffyn amdano bob troedfedd. Weithiau torrid rhedyn cryfion glas i wneud hyn. Yna, rhoid rhaff [sic] ar hyd drosto a phlethu trwm bleth am y rhaff [diagram â beiro a phensil] - yn fwy o addurn nag o ddim byd arall. Os na fyddai amser, yna, rhoi to hir i lapio dros y drwm heb y gwrach [sic] (gwrywaidd) a thair rhaff i’w ddal. Cyn dod o gortyn rhad y siopau gwneid rhaffau un sgaing (skein) ar hyd canol y pen a rhaff bleth o ddwy sgaing ar y drwm a’r bargod. I gadw’r rhain yn eu lle’r oedd rhaffau’n hongian dros y drwm - rhai pleth dwy sgaing eto - a gelwid hwy’n angorion. Rhoid cap [sic] ar big
Tudalen 28/Page 28 belem cyn ei thai hi - un wedi ei wneud o frwyn hirion [sic] glas, fynychaf. Cedwid yr angorion uchod yn eu lle naill ai â phriciau [sic] i’r das, neu drwy hongian cerrig trymion wrthynt.
[Diagram â beiro.]
(f) Da byrgorn sydd fwyaf cyffredin ynghyd a chymysg o rai penwyn – Hereford [sic]. Cofiaf ddysgu’r rhigwm hwn, cyn clywed am fuchod y 5 mil galwyn –
Trw di Fach Penwen deg Fagodd beder – Buwch-ar-ddeg; ‘Fagith eto Cyn bo’i farw Beder-buwch- Ar-ddeg a tharw! Yr oedd rhai ffermydd megis Y Graigwen, Ystrad, a’r Tyddyn Du, Dihewyd, yn cadw’n fanwl at dda duon [sic]Cymru.
Y beudai a’r bing rhwng dwy res o wartheg wedi eu clymu i wynebu ei gilydd sydd fwyaf cyffredin, a reil
Tudalen 33/Page 33 Yr oedd fy nhadau, y diweddar Mr W. Jones y Felin Feinog, yn gryn grefftwr ar hyn a gallai ef wneud basged fach ddestlus iawn o wiail drysi (coed mwyar). Delltai’r [sic] rheiny (h.y. eu hollti’n llafnau tenau) cyn eu plethu. Gallai hefyd wneud basged o wellt ceirch a’i rhwymo eto â dellt drysi, yn yr un ffordd ag y gwneir raffia a chen heddiw. Er mwyn gwneud llwyau ac ‘roedd yn rhaid cael cylleth gam i naddu allan bant yn y pren.
Diddorol yw sylwi ar y ffordd y rhennid y flwyddyn yn dymhorau ac adegau. Anaml y nodid y mis na’r dyddiad – rhyw ddiwrnod
Tudalen 34/Page 34 neu wythnos neu naw diwrnod neu bythefnos o flaen rhyw ddydd arbennig neu ar ei ôl y digwyddai pethau.
Wedi Dy [sic] Calan, deuai Ffair San Silyn ym Mis Bach; yna Ffair Ddewi (Llanarth) neu Ffair Garon (dyna’r adeg i ddechrau hau ceirch). Yna’r Pasg a Chlame a Ffair Dalis (ddechrau Mai - adeg hau barlys) a phan âi’r da mas y nos. Yr oedd Ffair Sulgwyn yn Llanbedr Pont Steffan ar Fercher y Sulgwyn a Ffair Llanarth yr Haf ar y 22 o Fehefin. Yn hon y gwerthid y da stôr neu dda hestor [sic]. Yn fuan byddai’n gneia [sic] gwair ac yn Awst dôi Dy’ Mercher Mowr [sic] pan geisiai pawb fynd i lan y mor [sic] yn Aberaeron ar un o’r tri hyn yn Awst. Yna’r cneia [sic] Medi a Ffair Dalsarn a Gwylhangel a Ffair Santes yn Llanybydder. Mae bellach yn Glangeia a’r Nadolig bron a dod.
Adeg Glangeia bydd gweision a morynion