Collections Online
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Advanced Search
Recordiad sain / Audio recording: Rachel Morgan
Recordiad hanes llafar Cymraeg gyda Rachel Morgan, Tre-lech a'r Betws. Fe'i ganwyd yn Rhoscrugebolion, Trelech a'r Betws. Pwrpas y recordiad oedd casglu gwybodaeth am hanes bwydydd cyffredin ers talwm. Recordiad hanes llafar Cymraeg gyda Rachel Morgan, Tre-lech a'r Betws. Fe'i ganwyd yn Rhoscrugebolion, Trelech a'r Betws. Pwrpas y recordiad oedd casglu gwybodaeth am waith morwyn fach ers talwm. Rhan 3 o 4 (AV 2491/1, AV 2492/1, AV 2493/1, AV 2494/1). Recordiwyd Miss Morgan gan yr Archif hefyd yn 1962 (gw. AV 504/1) ac yn 1974 (gw. AV 4242/1 a AV 4243/1).
Welsh language oral history recording with Rachel Morgan, Tre-lech a'r Betws.
Offer arbennig at gadw'r bwyd sucan. disgrifio'r broses o wneud sucan. Gwagar sucan = g. rhawn. Berwi'r sucan mewn ffwrn fach uwchben tân. Pren sucan i'w droi wrth ei ferwi Sucan mor dew a chosyn ar ôl iddo oeri. Ei ori mewn padell bridd. sucan = bwyd cynhaeaf gwair ers talwm. Profion o sucan da - yn torri fel afu. Ei fwyta gyda llaeth mewn ffiol bren. Llwyau pren. Bwdram - o fl. ceirch a llaeth enwyn oer - ei fwyta cyn mynd i helpu cymydog wrth y gwair. Ei fwyta mewn ffiol. Bwdram = bwyd tenau. Bwyd gaeaf yn bennaf. Ei roi i fam ar enedigaeth. Car - i ddal y llwyau pren yn y rhwm ford. Cawl yn fwyd cyffredin iawn. Ei dewhaua bl. ceirch ers talwm. Disgrifio'r broses o wneud cawl - mewn cidl. Enwi'r llysiau - eu paratoi y noson cynt. Peidio â gor-ferwi'r cennin. sêt garreg arbennig i ddal y cidl cawl. Lletwad bren i godi'r cawl. Bwyta'r cawl o ffiol a'r tato a'r cig ar drenshwn. Trolis < siwet a fflŵr - cybren (neu jam weithiau) a'u berwi yn y cawl pan fyddai'r tato'n brin. Berwi twmplins yn y cawl weithiau - eu bwyta â siwgr brown a llaeth.