Collections Online
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Advanced Search
Recordiad sain / Audio recording: Phoebe Evans
Recordiad hanes llafar Cymraeg gyda Phoebe Evans, Meidrim. Fe'i ganwyd ym Mlaenwaun, plwyf Tre-lech a'r Betws, yn 1889. Pwrpas y recordiad: Hanes gwneud caws ers talwm. Hanes gwneud cawl ers talwm. Rhan 5 o 6 (AV 2495/1, AV 2496/1, AV 2497/1, AV 2498/1, AV 2499/1, AV 2500/1). Welsh language oral history recording with Pheobe Evans, Meidrim.
Paratoi'r llaeth ar gyfer gwneud caws = gwitho caws, bob dydd. Gwneud cosyn bob 6 diwrnod. Rhoi'r llaeth mewn padell garreg, gollwng y llaeth allan drwy'r pin ar waelod y badell. Ffiol dene = ffiol bren i brofi a oedd hufen arni. Gwitho'r caws mewn padell bres. Cawslesi - disgrifio. Stand bren i ddal y badell bres ar bwys y tân. Cwrdeb - gormod yn achosi i'r cas fynd yn wydn. Gwanhau'r caws a'r maidd. rhoi'r caws yn y cawsles mewn lliain. Clawr pren ar y cawsles a'i roi o dan y peis. Colfren - gwefel o gaws o amgylch y cawsles ar ôl iddo gael ei wasgu o dan y peis. Ei dorri â chyllell. Gofal am y cosyn o dan y peis. Cadw'r caws yn rhŵm caws ar y lloft. - y gofal troi'r caws bob dydd, eu sychu i rwystro gramen ddatblygu arno. Godro defaid - y llaeth yn rhoi lliw melyn ar y caws. Y maidd - ei yfed weithiau, neu roi bara ynddo - bara maidd. Rhoi cwlffin o gaws i weithiwr adeg y cynhaeaf. Clwt o gaws i fwyta wrth ford. Gwerthu caws weithiau. Cwyro llâth = paratoi'r llaeth ar gyfer gwneud cosyn bob dydd. Disgrifio'r peis. Y maidd yn dod allan ar y gwaelod. Ffiledo'r cosyn yn y cawsles a'i droi bob dydd. Cawl - cig eidion sych + cig mochyn hallt. Y llysiau a roid ynddo - disgrifiad manwl o wneud cawl. Trolis yn lle tato weithiau < siwet + fflwr + dŵr. Cidl i ferwi'r cawl ynddo.