Collections Online
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Advanced Search
Recordiad sain / Audio recording: Rachel Morgan
Recordiad hanes llafar Cymraeg gyda Rachel Morgan, Tre-lech a'r Betws. Fe'i ganwyd yn Rhoscrugebolion, Trelech a'r Betws. Pwrpas y recordiad oedd casglu gwybodaeth am waith morwyn fach ers talwm. Rhan 1 o 4 (AV 2491/1, AV 2492/1, AV 2493/1, AV 2494/1). Recordiwyd Miss Morgan gan yr Archif hefyd yn 1962 (gw. AV 504/1) ac yn 1974 (gw. AV 4242/1 a AV 4243/1). Welsh language oral history recording with Rachel Morgan, Tre-lech a'r Betws.
Cefndir y siaradwr. Dod allan o'r ysgol yn 9 ml. oed i fynd yn forwyn fach. Cyflog am flwyddyn - £4.10. Morwyn fawr = howsen. Gwaith y forwyn fach - glanhau rhannau o'r tŷ, helpu gyda'r godro, cario bwyd i'r da, a gofalu'n arbennig am y moch. Rhoi bwyd y moch yn lych. Oriau gwaith y forwyn. Godro i sdwc. Bwyd - brecwast tê a bara chaws. Ychydig o fenyn ar ddiwrnod corddi'n unig. Y gweision a'r morwynion - bwyta yn y rhwm ford. Y teulu yn yr hall. Sgubo'r clôs ar ddydd Sadwrn, codi'r domen, glanhau rhŵm sgidie â gresh a blacin. Clocs i'r gwragedd, rasen = pedol fawr flaen. Gwyngalchu o dan y grât. Glanhau cyllyll. Gwitho balls - y ffordd o'u gwneud. Gwneud digon am 3 wyth. ar y tro- demshgin â'r traed. Paratoi bwyd y moch mewn twbeic - rhan arbennig o'r tŷ. Glanhau o dan y moch. Moch clos a moch perchyll. Gofalu am y ieir - rown corn i'w bwydo, hen lafur weithiau. Tŷ pair - cadw bwyd y ieir yno. Cinio - cawl ffres bob dydd - pwdin reis ar y Sul. Cario sopenni o wair a gwellt i'r tŷ. Tê - ychydig o fenyn neu gaws. Ffedogau canfas gwyn, glân i odro ac i wneud y gwelyau. Swper - cawl twymo. Gwaith gyda'r nos - cwro dillad - sanau. Bacse = tyllau mewn hosan. Golau lamp (potel fach swnd) a phapwr neu gannwyll. Y bechgyn yn helpu offer ceffylau. Mynd i'r gwely rhwng 9 a 10. Golau cannwyll etc. Gwely us neu milpwth. Newid us y gwely bob blwyddyn. Trin y ticin â sebon sych - best pale. Bocs i gadw dillad.