Collections Online
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Advanced Search
Recordiad sain / Audio recording: Phoebe Evans
Recordiad hanes llafar Cymraeg gyda Phoebe Evans, Meidrim. Fe'i ganwyd ym Mlaenwaun, plwyf Tre-lech a'r Betws, yn 1889. Pwrpas y recordiad: Hanes gwneud caws ers talwm. Hanes gwneud cawl ers talwm. Rhan 6 o 6 (AV 2495/1, AV 2496/1, AV 2497/1, AV 2498/1, AV 2499/1, AV 2500/1). Welsh language oral history recording with Pheobe Evans, Meidrim.
Twmplins afalau - eu berwi yn y cawl. 'Fale pren gwyn oedd yr afal gorau. Bloc cidl - carreg i ddal y cidl yng nghornel y simdde fawr - ei gwyngalchu bob hyn a hyn. Bwyta'r cawl mewn basn pridd â llwy bren - i ginio ac i swper bob dydd. Bwyta'r twmplins ar ôl y cawl i ginio. Rhai yn gwneud rowlin powlin yn y cawl. Cawl bach - gwneud cawl o'r cig sbâr, ei falu'n fân yn ogystal a'r tatws a'r llysiau, malu'r cyfan, ei ferwi a'i fwyta trw'r trwch. Stew gwningen - dim tatws ynddo - gwneud pwtsh tatws ar wahan - ei fwyta ar dydd Sul yn aml. Cawl ffwt a berw - cawl wedi'i wneud ar frys - ddim wedi berwi digon. cf. Jam ffwt a berw - ddim wedi'i feri yn iawn. Pwtsh, pwtsh swêds a grefi i ginio dydd Sul. Pancos - eu cymysgu â llaeth enwyn a wyau. Eu crasu ar y planc. Rhido'r planc â grofen cig cyn rhoi'r pancos arno. Y pancos yn sero cyn eu troi. Ei troi â chyllell. Rhoi tregl arnynt i'w bwyta. Gwneud pancos ar gyfer ymwelwyr weithiau. Bara bach = para pwff.