Collections Online
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Advanced Search
Recordiad sain / Audio recording: Phoebe Evans
Recordiad hanes llafar Cymraeg gyda Phoebe Evans, Meidrim. Fe'i ganwyd ym Mlaenwaun, plwyf Tre-lech a'r Betws, yn 1889. Pwrpas y recordiad: Gwaith y forwyn ers talwm. Rhan 1 o 6 (AV 2495/1, AV 2496/1, AV 2497/1, AV 2498/1, AV 2499/1, AV 2500/1).
Welsh language oral history recording with Pheobe Evans, Meidrim.
Cefndir y siaradwr. Croten fagu ar fferm a mynd i'r ysgol - y gwaith. Morwyn mewn shop. Ail forwyn ar fferm - y cytuno. Cyflog £8 y flwyddyn. yr ernes. Ffedogau gwyn o sach fflŵr - i weithio allan. Ffedogau tsech yn y tŷ. Oriau gwaith. Gwaith yr ail forwyn - helpu gyda'r godro, y carthu a tendo tshaff i'r da. Y bwyd. Gwasanaeth deuluol ar ôl brecwast. Y gegin a'r hall. gwaith y gaeaf - helpu gyda'r dyrnu. gwneud sopenni. Y prydiau bwyd. - yr amser a'r bwyd. Gwaith gyda'r nos - cwiro sanau - bacsa = tyllau. Mynd allan i siopa dros y feistres unwaith yr wythnos - y ddwy forwyn am yn ail wythnos. Cael myn i siopa i'r dref unwaith y flwyddyn. Y ffeiriau - cael mynd i yn y flwyddyn. Mynd i'r gwely heb olau, a chodi yn y bore. Gwneud canhwyllau - y broses, diwrnod arbennig at y gwaith - gwneud digon ar gyfer y gaeaf. Bocs canhwyllau i'w cadw a chlo arno. Lamp fach â phabwr (heb wydr). Pâr o flancedi i forwyn ar ôl 7 ml. Treisiad i fachgen am yr un cyfnod. Trwnc tun i ddal dillad.