The Welsh dialect of Blaenpennal, Ceredigion
Ceredigion Welsh
Listen to Mrs Elizabeth Evans from Blaenpennal talking in a Ceredigion dialect of Welsh
The recording
An example of the Welsh dialect of Blaenpennal, Ceredigion by Mrs Elizabeth Evans.
Ond dyna pinacl y flwyddyn odd y...
Y cneifo. On ni’n edrych mlân ato fe.
Och chi? Odd y gwaith ddim yn ych poeni chi?
O nag odd, odd e ddim yn poeni o gwbwl. Nag odd. On ni’n hapus yndo fe.Bydden nw yn glanhau’r tŷ yn arbennig cyn yr adeg hyn nawr?
O bydden! O, sgwrio! Wel, wel! A’r nosweth, nos Sul cyn cneifo on ni ddim yn mynd i’r gwely. On ni’n... y... yn... y... golchi’r llorie a neud y byrdde’n barod i’r bugeilied fyn’ allan, chi ’bod. Neud te a cig a phethe
felny iddyn nw. On nw’n byta fe biti dau o’r gloch y bore, cyn eusen nw allan.
Pan on nw’n myn’ i gasglu’r defed?
Casglu’r defed, ie. le, ie. Nuson nw erioed gasglu’r defed ar nos Sul. Naddo.
Mynd ar ôl hanner nos?
Ar ôl hanner nos. Dou, dri ar gloch wedwch chi. Fel bydde’r wawr yn dechre torri pan fydden nw ar y top. Ie.
Wel nawr, ŷn ni’n son am y bwyd, faint o fara fyddech chi’n neud och chi’n gweud? Och chi’n dechre ar ddy’ Llun...Oen. Wel odd y ffwrn yn cymryd...ŵ... dorthe mowron, deg torth fawr, fel... on ni’n neud e mewn tyns mawron chi ’bod. Deg.
A deg bob dyrnod nawr?
le. Bob dwrnod. Neud ’run faint bob dwrnod.
Och chi’n crasu wedyn dy’ Llun, dy’...
Dy’ Mawrth, dy’ Mercher, a bennu dydd Iau. Ie.A pa fara och chi’n neud wedyn?
Dim on’ bara gwyn. Ie, ie.A beth am y gacen? Pryd och chi’n dychre neud honno?
On ni’n neud honno fel ar ddy’ Mercher cyn y dy’ Llun wsnoth cyn y cneifo.
Fel bod ’i’n cal cadw...
le, cadw a bod ’i’n... wedi seto. le.Odd hon yn gacen arbennig.
O, oedd ’i’n gacen neis. Cacen îst.Beth och chi’n rhoi yndi nawr ’te?
Wel, lard a fat... digon o fat cig moch amser ’ny. Cyrens, resins, siltanas, wie...
Odd ’na ryw bwyse... Och chi’n roi ryw... y... chi’m ’bod?Nag odd. Plain fflŵr. Fflŵr plaen, ie.
Faint o bob peth och chi’n roi? Odd ’da chi ryw...?
On ni’n rhoid fel... wel, wedwch chi sawl pownd o fflŵr nawr? O, allwn i’m... alla i’m a gweud nawr. Ond on ni’n rhoid fel... ’con ni’n rhoid... ym... Odd ’i ryw bump cacen fawr, tynen fawr. ’Co ni’n rhoi hwech tyne... ym... o, ’roswch chi gal gwel’. Wel meddyliwch chi bo’ rhoi hwech pownd
o fflŵr. On ni’n rhoi ryw bedwar i bump o... cyrens, a rhyw bedwar i pump o shwgwr. Rhyn y cyrens a’r syltanas a phethe. Ond... O! Odd ’i’n fwy na ’ynny wi’n shŵr ’efyd.A faint o wie wedyn?
O! Wel, on ni’m yn edrych! Odd rhoi padelled fawr o rini wedyn. Oen.
Dwsin i jyst ddwsin a ’anner. Oen.Och chi’n neud y cyfan yr un pryd wedyn?
O oen! Y cwbwl ’run pryd. Oen. Ond y job odd ’i ar y gacen, pido rhoid y ffwrn ry boeth. Odd tipyn mwy o waith wrth y gacen na wrth y bara.