The Welsh dialect of Morriston, West Glamorgan
Swansea Welsh
Listen to Cecil Lewis from Morriston talking in a West Glamorgan dialect of Welsh in Chapter 2 of this story.The recording
An example of the Welsh dialect of the Morriston area of Swansea, West Glamorgan by Cecil Lewis.
Odd rai’n myn’ i ifed ar y slei, of cwrs, on’ och chi ddim fod i fyn’ i dafarne i ganu. Ŷch chi’n ‘bod yr Annibenwyr, p’un e chi ‘di gwbod o’r blân, fe dorrodd yr Annibenwyr Cwm Rondda mâs o’r llifer emyne. /Do fe?/ Shwrne dethôn nw i ganu Cwm Rondda a Tôn y botel yntafarne, dorrws yr Annibenwyr... dyw e’m yn llifer emyne ni nawrl Tôn y botel na Cwm Rondda. Ŷn ni’n canu C’wm Rondda acha... ma man ‘yn nawr, mae man ‘yn ‘da fi nawr. Dere ‘ma gw’ boi bach. Edrychwch chi trw’r llyfyr emyne ‘na. Sdim Cwm Rondda ‘na /Cwm Rondda ‘na/. Na Tôn y botel.
Ôn nw’n strict â’r pethe ‘ma slawer dydd, ôn nw?
O, y ni odd y gwitha wi’n credu. Annibenwyr.
Ôn i’n meddwl taw’r Methodistied odd...
Methodists, ôn nw’n câl y bai ‘efyd. Shwrne dethon nw i ganu Cwm Rondda a Tôn y botel yn y tafarne... Blaen-wern, odd dim lot o Blaen-wern ‘ma, chwel’ ‘chos on nw’n can... Ethon i ganu e i tafarne, chwel’. Odd, os och chi’n ifed, ‘na’ch Waterloo chi. /Ife?/ ‘Na’ch diwedd chi. O ie. O, och chi ddim fod i ganu... Wel ŷn ni’n canu Cwm Rondda, ma gire Cwm Rondda gyda ni yn y manna, ond dim a’r tôn... O Duw annwl! On nw... Shwrne odd e’n myn’ yn gân tafarne /ie/, ddim ishe ‘wnna. On nw...
Odd rai’n myn’ i ifed, though, yn’d odd e?Wel, ôon nw’n ifed, ond ôn nw ddim yn openly chimod. On nw’n gwpod bo’ nw’n ifed. Wel, alle gwŷr y meline byth wedi gwitho yn y meline oni bai bo’ nw... i gadw i... Wel, ôn nw... meddylwch chi bo’ chi’n wsu, bod cryse’n do’ mâs fel ‘san nw’n dod o’r dŵr. Wel och chi’n colli nerth ofnadw o’ch corff, w. Wel, mae’n marvellous bo’ nw wedi byw! /‘Ti, ‘ti./ Duw!
So ôn nw’n ifed i neud lan y dŵr?Wel ôn. Ôn nw yn. A dodi halen ‘nôl yn y corff, ys wedôn nw, chwel. Wel odd e yn ffaith ‘efyd. Odd jest neb odd yn gwitho’n y meline yn deetotallers. /Na./ Braidd. Nagw, nagw dirwest eriôd wedi bod yn werth yn Dreforys. Bach iawn o Band of Hopes sy ‘di bod ‘ma eriôd. Dim on’ y plant odd yn y
30 Band of ‘Ope. Shwrne ôn nw’n dod digon ‘en i ifed, ôn nw’n ifed.
‘Na beth odd amcan y Band of ‘Opes, ‘te, odd dirwest, ife?le. Teetotallers, Band of ‘Ope. O Duw annwl. On’ bach iawn o rina odd i gâl. Ôn nw’n ifed i... Wel, a ôn nw mâs nos Satwn, ôn nw? Cwrdda, cwrdda yn y tafan /ie/. Wel odd ddim pictures i gâl amser ‘ny. A’r unig man odd ‘da
nw i gwrdda odd y tafan. Wel, och chi’n myn’ i dafan, och chi’n ifedlOdd y merched yn myn’ i dai tafarne?
Na, na byth. Odd ddim merch câl myn’ i dafan.
Beth... ôn nw’n ‘ala ‘i mâs, ôn nw?
Dele ‘i ddim miwn. Cele ‘i ddim myn’ miwn. A odd snug— gwelsoch chi’r
snug eriôd?Ma ryw gof ‘da fi amdanyn nw!
Wel, ‘na fe, dim on’ i’r snug ôn nw’n cal mynd.
Ife? /Ie./ Beth odd yn ots? Beth odd...
Och chi ddim fod i gymisgu. Dinon a menŵod mewn tafan. Catw’r menŵod fel’a, cadw’r dinon a... ‘Cer di o fanna.’
Pwy fenŵod odd yn myn’ i dai tafarne ‘te?
Y rough lot.
Ife? Pwy ôn nw weti ‘ny, ‘te?
O Duw, Duw! O’ son amdanoch chi. Câl menyw’n myn’ i dafan, och chi’n gomon ofnadw. W, dim o’ch ishe chi! Out! Odd ddim capel i chi, och
chi out. On’ ‘na beth od, ma dyn... ôn nw’n gweud bod dyn yn ifed, odd menyw yn llemitan. ‘Na’r gair. ‘Oti JohnJones...?’ ‘O, mae e’n ifed, oti. A ma’i wraig e’n llymitan ‘efyd.’ Wel, ‘na’r hall mark wedi ‘ny. Os odd ‘i’n llymitan, walle dele ‘i ddim... dele ‘i ddim... odd ‘i ddim câl dod. Os odd
‘i’n dod i’r tafan, dim on’ i’r snug odd‘i’n câl dod.Jyst tu fiwn y drws. Rŵm bach, ŷch chi’m ‘bod, a mâs. Odd ‘i ddim câl myn’ miwn i’r bar a cymisgu â dinon. O Duw, Duw! Out!
Odd rai menywod yn ifed yn tŷ?Wel, dim trw wpod i ni. Na, on nw’n myn’ i... On’ och chi ddim cymisgu â rina, chwel’. Ôn ni’n ‘bod dim amdenyn nw! Duw! Bydde Mam ‘di’n
lladd ni ‘tân ni’n myn’ i dŷ menyw odd yn ifed! ‘O d... paid di â neud ‘na ‘to, cofia! Paid di â myn’ ‘da’r fenyw ‘na, ma ‘onna’n ifed, cofia!’ O, odd ‘i’n dread. Dread thing. Llymitan odd fenyw, ifed odd y dyn. ‘Na od, ife!