The Welsh dialect of Llansannan, West Clwyd
Denbighshire Welsh
Listen to Samuel Davies from Llansannan talking in a Denbighshire dialect of Welsh.
The recording
An example of the Welsh dialect of the Llansannan area of Denbighshire by Samuel Davies.
Ew! Dwy ‘di bod yn cysidro hefo... euddwn i’n cysidro hyd ‘nod yn ‘ngwely neithiwr am enwe sydd ar betha ar drol. A dwy ‘di methu’n glir â cofio un enw, a fedra’ im cofio chwaith. Gymaint o wahanol enwe sy ar ddefnyddie mewn trol geffyl ‘ndê.
Dach chi’n cofio rhei onyn nw?
Ydw... Wel cymwch chi’r olwyn i gochwyn, yndê. /Ia, ia./ Y cylch, y camogie /ia/, y both /ia/, yr edin /ia/, a’r bocs echel /A!/ i gymyd o’r ddwy olwyn, o olwyn i olwyn /ia, ia/. Wel ma ‘ne... yn y... yn y drol wedyn, ma ‘ne fel ‘den ni’n deud... y crab ar ben blaen, ar drows pen blaen y drol.
Fydda... fydda’r ciartar yn amal iawn adeg ‘onno, dudwch bod o’n mynd i rwle, ‘uda’ i bod o’n mynd i’r felin efo’r gaseg a’r drol. Wel y rên, ag ista ar y crab yndê. A’i ddwy droed fel hyn ar y shafft yndê. Crab byddan nw’n galw hwnnw. /0 ia ia, ia./ Wel y frân, i godi’r drol i fyny pen fydde’n cario tail. Fydde ‘ne rw bishyn bach o huarn fel ‘yn a tylle yno fo felne, a wedyn gaech chi godi y pin fel byddech chi’r tail yn mynd yn... i godi hwnne ‘ndê. Y din bren, fel bydden n’n deud, o’ reid tynnu honno yn gynta, yndodd i, ar draws tu ‘nôl.
Ar draws tu ’nôl?Tu ‘nôl. O, ie./ O dan y shafftie o boptu o‘ ‘ne ddau... wel, dau ychdwr
yma fel ‘yn, debig iawn i ddau goes brws. Dau dwm fydden ni’n alw o. Twm. O dan y shafftie. /Ie. / A wedyn, os byddech chi... dduda’ i bo’ chi’n... yn dadfachu ar ganol dydd efo llwyth o wair, fyddech chi’n dadfachu’r ceffyl, a gadal y drol ar y ddau dwm ‘ma, a wedyn fydde honno’n cadw’r drol yn ‘run ychdwr ag oedd ‘i wth y ceffyl yndê. A wedyn
25 o’ ‘ne rwbeth i roi ar y drol i gario cnwd — hofygafana eudden ni’n galw ‘i.Pethe i estyn y...?
le. Dene fo.
O! ’Na beth och chi’n galw nw, ie?
Dene be’ chi’n galw hwnnw. A ‘ma ‘ne wedyn ar hyd top yr ochor y drol,
ar rw shâp, fel rw dop llong, ond fedra’ i... Doedd o ddim ond ‘w bishyn o bren, dudwch bod i’n deud rw ddwy fodfedd a hanner. A fedra’ i yn ‘y myw einios â cofio be’ ‘di enw o. A dwy fod yn gwbod yn iawn be’ ‘di enw o, ‘de... Oedd o ar hyd top yr ochor i gryfhau a ‘dyn y pinne sgriws ‘ma’n mynd wedyn i’r ochre’r drol yndê. Ond am ‘u cofio’u henwe nw! A dwy’n
gwbod yn iawn bod ‘ne enwe arnyn nw ‘ndê.
... Gêr y ceffyl wedyn, ‘de. /Ie./ Bobol bach! ‘Ne chi’m byd ‘blaw y siwt odd gen y ceffyl isho’i roi wth y drol. Fydden ni’n ‘i alw o y strodur.Ar ’i gefn o, ie?
le. A wedyn, o’ ‘ne y din dres eudden ni’n galw ‘i. Tshaen — pad yn mynd
rownd y ceffyl, a dwy tshaen yn dod i’r shafftie. O’ ‘ne ddwy arall mynd o’r mwnci i’r drol. Fel bydden ni yn deud, pytie tsheini fydden ni’ngalw rhini adeg ‘no. /O ie./ O’ ‘ne beliband. /O shafft i shafft, ia?/ Ia, o dan dor y ceffyl. /A ie. le, ie./ Ym... y ffrwyn. Yr enwe odd ar y ffrwyn. Yr awen... A ‘dyn y bit, trw geg y ceffyl...
O’n ofynnol i geffyl gwaith wastad teg, dene fo... am geffyl shoe dene fo, dôs ne’m byd, ond o’ reid i geffyl llwyth gâl... y... y... clustie fel hyn i’w ffrwyn wastad teg yndê. /O ie./ On’ be ‘i, basa ceffyl yn gweld ‘i lwyth tu ‘nôl ne gweld y gwaith ‘sech chi’n neud, mi alle ‘i chymid ‘i’n syth. Fel odd o ‘di cal ‘i gau nad odd o’n gweld dim byd ond o’i flaen, ‘de.Fydde gêr troi yn beth gwahanol eto?
O’ honno yn gêr gwahanol eto. Wel y prif beth am ‘onno... dyne’r... y... eudden ni’n galw honno y cefndres.
A! Fel pad ar ’i...Dyne fo. Dim ond pad drost y cefn, a bacha arni, a dwy tshaen o’r mwnci hyd i’r sgildreni bach, fel bydden ni’n deud. /Be’ odden nw?/ Suldremi bach. Felne bydden ni... O’ ‘ne dair sgilbren i droi. Un sgilbren fawr, a’i chanol ‘i’n bachu wrth yr ared, a... yn bob pen i’r silbren fawr o’ ‘ne ddau... fel hook fel ‘dan ni’n deud. Wel bachu... y ddwy sgilbren bach yn rheini i bob ceffyl.