Dyddiadur Kate: 1946 – Pwy ’di pwy? Elen Phillips, 25 February 2016 Dyma fi o’r diwedd yn cael cyfle i ’sgwennu pwt o gyflwyniad i brosiect @DyddiadurKate 1946. I ble aeth Ionawr a Chwefror?! Ta waeth, roedd wythnosau cyntaf 1946 yn gyfnod prysur i Kate Rowlands hefyd. Rhwng mynychu’r capel ac ymweld â chymdogion, "ymosod a chlirio y pantri o ddifrif" a mynd ar wibdaith i weld bedd Lloyd George – roedd ei bywyd cymdeithasol mor orlawn ag erioed.Erbyn 1946, roedd hi'n wraig briod 54 mlwydd oed, yn fam i bedwar, yn fam-yng-nghyfraith i dri, ac yn nain i Dilys Wyn. Dw i’n hynod ddiolchgar i Eilir Rowlands – wyr Kate – am gysylltu gyda rhagor o wybodaeth am hanes y teulu rhwng 1915 – 1946. Mae atgofion Eilir am ein nain yn haeddu blog ehangach, ond yn y cyfamser, dyma grynodeb o bwy di pwy yn nyddiadur 1946.B.P – Robert Price RowlandsGŵr Kate – fe briododd y ddau yn Chwefror 1916.R.E a Dwys – Robert Ellis Rowlands a Dwysan RowlandsEi mab hynaf a’i wraig. Roedd Dwysan yn ferch i Bob Lloyd (Llwyd o’r Bryn).E.O (Dwa) – Edward Owen RowlandsY mab canol a oedd yn briod â Greta. Rhieni Dilys Wyn.Em – Emyr Price RowlandsEi mab ieuengaf a oedd ar y pryd yn ddi-briod ac yn byw adref.Es – ElsieEi hunig ferch a briododd yn 1944.Mam a Dad – Alice Jane Ellis ac Ellis EllisEi mam a'i llystad. Yn 1915, roedden nhw’n byw yn Ty Hen, ond erbyn 1946 roedd y ddau wedi symud i’r Hendre, sef hen gartref teulu Alice Jane.Gyda llaw, bron i mi roi’r pennawd Helo Kitty i’r blog yma, oherwydd i bobl y Sarnau a’i theulu, roedd Kate yn cael ei hadnabod fel "Kitty Ty Hen". Mwy am hyn tro nesaf.