These cookies are absolutely essential for our website to function properly.
We use Google Analytics to measure how you use the website so we can improve it based on user needs.
These cookies may be set by third party websites and do things like measure how you view YouTube videos.
Pecyn adnoddau i diwtoriaid Cymraeg i'w ddefnyddio yn Amgueddfa Wlân Cymru.
Mae Gwau Geiriau'n adnodd rhyngweithiol sy’n cynnig cyfle i ddysgwyr ddysgu, datblygu a gloywi iaith drwy fanteisio ar holl adnoddau’r Amgueddfa Wlân, Dre-fach Felindre a chyfle i diwtoriaid gael cymhorthion astudio amrywiol.
Mae’r Amgueddfa yn dathlu diwydiant gwlân Cymru fel rhan o’n hetifeddiaeth genedlaethol gyda chymorth crefftwyr a staff gwybodus sy’n siarad Cymraeg, yn ogystal ag arddangosfeydd yn cynnwys gwrthrychau, lluniau, ffilmiau ac adnoddau sain.
Mae'r pecyn yn cynnwys:
Dewch â’ch dysgwyr i fwynhau profiad gwirioneddol Gymraeg wrth ddysgu. Am fwy o wybodaeth neu i drefnu ymweliad ffoniwch (029) 2057 3070.
© Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2009. Amgueddfa Genedlaethol Cymru sydd â’r hawlfraint i’r deunyddiau sydd ar y CD, DVD â'r we-fan, ac eithrio’r ddwy gân Brethyn Cartref (traddodiadol, trefn. Mynediad am Ddim) a Merch o’r Ffatri Wlân (Meic Stevens); Sain (Recordiau) Cyf. biau’r hawlfraint ar y recordiadau, a Chyhoeddiadau Sain biau hawlfraint y caneuon.