These cookies are absolutely essential for our website to function properly.
We use Google Analytics to measure how you use the website so we can improve it based on user needs.
These cookies may be set by third party websites and do things like measure how you view YouTube videos.
Seiliwyd y gweithgareddau ar lefelau ALTE a dilynir trefn y patrymau a nodir yn y meysydd llafur MYNEDIAD, SYLFAEN, CANOLRADD ac UWCH.
Ffurfiau llafar 'deheuol' a welir yn y taflenni gwaith ond mae modd i diwtoriaid eu haddasu ar y we i gwrdd â'u gofynion arbennig.
Dylai tiwtoriaid baratoi myfyrwyr yn drylwyr cyn ymweld â'r Amgueddfa trwy gyflwyno'r patrymau a'r eirfa angenrheidiol iddynt. Dylid rhoi cyfarwyddiadau clir i bob grŵp cyn dechrau ar y gweithgareddau a dylent wybod lle y bydd y tiwtor ar gael. Sicrhewch fod gan bob myfyriwr gopi o'r daflen / holiadur angenrheidiol ymlaen llaw a'u bod yn gwybod yn union beth y disgwylir iddynt ei wneud. Dylai'r tiwtor fod ar gael mewn man ganolog i dderbyn adborth gan y myfyrwyr ac i gynnig help yn ôl yr angen.
Dylid rhybuddio myfyrwyr rhag blaen y byddant yn clywed ffurfiau ieithyddol gwahanol i'r rhai a ddysgwyd iddynt. Os nad ydynt yn deall gofalwr yn siarad, dylent ofyn iddo ailadrodd yr hyn a ddywedodd yn araf. Dylid gofyn beth yw ystyr unrhyw air neu ffurf anghyfarwydd. Dylid sicrhau bod y dysgwr (yn enwedig dechreuwyr pur) yn gyfarwydd ag ymadroddion fel, 'Eto, os gwelwch yn dda.'; 'Siaradwch yn araf'; 'Dw i ddim yn deall' etc.
Cofiwch ddefnyddio'r sesiynau'r dosbarth ar ôl yr ymweliad i gadarnhau unrhyw batrymau neu eirfa a godwyd.
Ceisiwch dynnu sylw'r dysgwyr at gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg o fewn eu cynefin. Mae llawer o'r unedau yn gyffredinol eu hapêl a'u defnydd a gellir eu gweithredu yn ardal y dosbarth.